Blogiau'r Ardd

Dyddiaduron Coed

gan

Ers dros 20 mlynedd rwyf wedi bod yn cofnodi pryd fyddaf yn gweld y ddeilen gyntaf ar ba bynnag fath o goeden frodorol Brydeinig fyddaf yn dod ar ei thraws.

Does dim diben wedi bod i hynny, dim ond fy mod yn un o’r bobl hynny sy’n hoffi gwneud rhestrau i weld sut mae’r tymhorau’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Doedd y gwaith ddim yn wyddonol iawn, ond roedd yn fy nghymell i edrych a chael fy nghyffroi pan fyddai’r goeden hon neu’r goeden arall yn dechrau deilio’n gynnar iawn neu’n hwyr iawn.

Ffenoleg. Dyna’r gair a ddefnyddir i fonitro newidiadau tymhorol fel hyn. Y llynedd ysbrydolodd hyn ein gwirfoddolwyr cadwraeth natur i fonitro deilio 15 o goed brodorol o gwmpas yr Ardd Fotaneg.  Ond nid y deilio’n unig.  Maen nhw’n edrych ar ddatblygiad y blagur, pa ddyddiadau fydd blodau coed yn ymddangos ac yn troi’n ffrwythau, ac yna’r dail yn disgyn. Wedyn cofnodir gweld adar a phryfed ar y goeden, newidiadau yn y planhigion ar y ddaear o gwmpas y goeden, ffyngau a allai niweidio neu helpu’r goeden, a thyfiant canghennau newydd a allai ddechrau bwrw cysgod dros gen sy’n brin.

Mae ein gwirfoddolwyr coed, dan arweinyddiaeth Marie Evans, a arferai fod yn athrawes, wedi eu hysbrydoli hefyd i ddarlunio’r coed a’u hadau, cyfansoddi cerddi ac ysgrifennu’n dwt â llaw bopeth maen nhw wedi sylwi arno mewn llyfrau sydd, a dweud y gwir, yn llyfrau lloffion. Ond mewn gwirionedd llyfrau wedi eu creu’n hardd ydyn nhw a brynodd Marie mewn oriel gelf.

Mae llyfr 2019 bron wedi ei orffen nawr – dim ond gosod ffotograffau o’r hoff wirfoddolwyr a gymerodd ran sydd eisiau – dros ugain a mwy. Ar ôl ei orffen bydd y llyfr hwn, a fersiwn 2020 a hefyd 2021, 2022 ac ymlaen, gobeithio, yn cael ei roi yn Llyfrgell ac Archif yr Ardd Fotaneg. Gobeithio y bydd ymchwilwyr y dyfodol yn gweld bod yma gyfoeth o sylwadau a fydd yn helpu dangos sut oedd hen goed hardd erbyn hynny wedi addasu yn ôl newidiadau yn yr hinsawdd, rheolaeth a defnydd. Yn anffodus, mae un o’r 16 o goed a ddisgrifir yn annhebygol o fyw mor hir â hynny – mae’r onnen ar Lawnt y Mileniwm eleni wedi dangos dewteradu sylweddol wrth iddi frwydro yn erbyn yr afiechyd coed ynn sy’n cael effaith arswydus ar ein holl goed ynn brodorol ledled Cymru, y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop.

Ond rhaid inni beidio â gorffen ar nodyn trist. Rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld pa mor rheolaidd mae ein dwy goeden dderw yn cynhyrchu mes, y coed ffawydd yn rhoi cnau ffawydd a’r cyll yn cynhyrchu cnau. A fydd amanita’r gwybed yn ffrwytho dan y coed ffawydd ar ôl inni wasgaru ei sborau yno, a gawn ni byth weld cnwd trwchus o bêr gwyllt, a phryd gawn ni weld ein hwyau adar cyntaf yn deor yn un o’n coed? A yw’r goeden bisgwydd yn arogli mor odidog yr un pryd bob blwyddyn? Beth yw’r cen yna sy’n tyfu ar y coed sycamor? Mae Covid wedi ein hamddifadu o gymorth gwirfoddol bryolegydd arbenigol (sy’n astudio mwsogl a chwpanllys) eleni, ond gobeithio y bydd hi, ac arbenigwyr eraill, yn ein helpu i gofnodi a monitro’r rhywogaethau llai adnabyddus dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, neu hyd yn oed ein helpu i ddyddio bob coeden.

Rhowch wybod i fi os gallwch gynnig unrhyw wybodaeth arbenigol i helpu Marie a’r tîm.