Mae cwmni theatr penigamp ‘Taking Flight’ nôl yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sul, Mai 19 am 2.00yp.
Byddan nhw’n cyflwyno ‘A Midsummer Night’s Dream’ – comedi hyfryd Shakespeare – fydd yn serennu Cara ReadLe o’r rhaglen teledu, Tracy Beaker.
Meddai Elise Davison o ‘Taking Flight’: “Gan ddefnyddio’r Ardd fel ein hysbrydolaeth, byddwn yn eich harwain ar daith hudol llawn chwerthin, pypedwaith, a cherddoriaeth byw gwreiddiol.”
Bydd y perfformiad yn dechrau am 2.00yp, a does dim tâl ychwanegol i weld y ddrama. Mae taliadau arferol mynediad i’r Ardd yn gymwys.
Am fwy o wybodaeth am hwn a digwyddiadau eraill yn yr Ardd, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk , neu galwch 01558 667149.