Mae Cheryl Beer, y Gantores/Cyfansoddwraig ac Awdures arobryn sydd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Creadigol ar ei liwt ei hun mewn cymunedau, wedi cael ei rhyddhau o’i rôl arferol am gyfnod o 12 mis, i’w galluogi i deithio glannau Gorllewin Cymru yn dyfeisio hanes newydd ‘ar gyfer y werin bobl’, a hynny wedi ei ariannu gan Grant Unigol trwy garedigrwydd Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Coeden y Ddraig yn genhadaeth gydol oes i’r prif gymeriad Dafydd, pysgotwr a gafodd ei ysgubo i lannau Bae Ceredigion, a gyda Guinivere, y Dduwies Fôr Forwyn ar ei ochr, mae ei daith tua’r Gorllewin yn cyfuno hanesion o’r gorffennol, presennol a’r hyn allai fod yn y dyfodol, a’r cyfan oll yn cael ei bortreadu yn hyfryd trwy Osodiad Celfyddydol Aml Gyfrwng i gynnwys Caneuon, Cerddoriaeth, Ffilm, Geiriau Llafar, Celfyddydau Creadigol a Symudiad trwy Arts Care/ Gofal Celf, Criw Dawns Cyfoes LegaC.
Yn sicr, mae Cheryl yn cipio dychymyg cynulleidfa lled eang, am fod ei blog, sydd yn cofnodi’r broses, wedi denu sylw dros 10,000 o bobl dros y byd yn ystod 7 mis cyntaf y cyfnod grant: fusioninspire.blogspot.co.uk
Mae Coeden y Ddraig yn seiliedig ar ymgynghoriad gyda dros 650 o aelodau o Gymunedau Gorllewin Cymru a miloedd o bobl dros y rhyngrwyd.
Dengys siwrnai greadigol Cheryl inni’r hyn y mae’r bobl yn ei ystyried i fod yn ‘ddu a gwyn’ ar hyd yr arfordir, o ganu ar y cyd gyda dolffiniaid trwy recordiadau acwstig ‘hydro-phonic’ allan ar y môr gydag Ymddiriedolaeth Gwylio Bywyd Gwyllt a Bywyd Môr Ceredigion, i sylwadau cymdeithasol gan Ddawnswyr Stryd DDC yn portreadu’r lefel uchaf o ddiweithdra yn y trefi glan môr. O fanteisio ar hen hanesion gwerin wedi’u rhamanteiddio, i greu cymeriadau newydd ar gyfer yfory, mae Coeden y Ddraig yn rhoi cyfle i’r gynulleidfa flasu natur bersonol creadigedd Cheryl o fewn cyd-destun ei bywyd yng Ngorllewin Cymru.
Mae ei sylw i fanylder a’i hymrwymiad i gynhwysiant drwy’r celfyddydau o fewn ei gwaith ei hunan wedi arwain at Osodiad Celfyddydol Dwyieithog a fydd yn cael ei arddangos ochr yn ochr â’r cynhyrchiad. Trwy ddefnyddio defnyddiau wedi eu hailgylchu, a chynrychioli pysgotwyr Afon Teifi, mae’r gosodiad yn cynnwys cyfieithiadau o eiriau Cheryl gan y Bardd arobryn Ceri Wyn Jones a Mainc Adrodd Hanesion o waith llaw a wnaed o froc môr ein glannau.
Yn ogystal â hyn, bydd Cheryl yn cynnwys arogl fel rhan o’r cynhyrchiad i ehangu profiadau’r rheiny sydd â nam ar y golwg, ac mae wedi cyfansoddi cerddoriaeth a phatrymau rhythm yn seiliedig ar ffilmiau iaith arwyddion gyda chymorth Maggie Hampton, Cyfarwyddwr Celfyddydau Anabledd Cymru.
Bydd Coeden y Ddraig yn teithio yn ystod Ionawr – Chwefror 2013 i Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Y ‘Cwrt House’, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac Eglwys Sant Cadog, Trefddyn.
Gwestai Arbennig fydd yn ymuno â Cheryl Beer:
Criw Dawns Cyfoes LegaC gyda Arts Care Gofal Celf / Dawnswyr Stryd DCC
Ysgol Gynradd Bigyn ac Ysgol Gynradd Tre Ioan
Rachel Hargrave, Amanda Painting, Jeff Beer, Teena Gould a Grŵp Iwcalili Abertawe