£45.00 – £90.00
Disgrifiad
Meddwl am Nadolig? Gofidio am beth i brynu i ffrindiau neu’r teulu?
Mae’r prisoedd yn dechrau o £45 a chofiwch, gallwch brynu am unigolyn, am gwpl neu deulu cyfan (dau oedolyn a hyd at bedwar o blant).
Ar hyn o bryd mae pob aelodaeth yn dod â phecyn rhodd sy’n cynnwys cerdyn aelodaeth, hadau, llyfrynnau a bag siopa cotwm.
Nodwch os gwelwch yn dda: Bydd pob aelodaeth yn dechrau ar Ionawr 31ain 2021.
O ddod yn aelod o’r Ardd, fyddwch chi ddim yn unig yn cefnogi’n helusen ac yn ein cynorthwyo i ymgymryd â gwaith ymchwil hanfodol, ond gall aelodau hefyd fwynhau amrywiaeth eang o fanteision:
- Mynediad am ddim am gyfnod eich aelodaeth*.
- Boreau coffi i aelodau: sgyrsiau, teithiau a gwibdeithiau i erddi eraill
- Garddwest flynyddol – diwrnod arbennig i aelodau GFGC, gan gynnwys sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau.
- Calendr lawn ac amrywiol drwy gydol y flwyddyn: sgyrsiau, cyngherddau, ffeiriau bwyd a chrefftau, cerddoriaeth, theatr a digwyddiadau garddwriaethol.
- Gostyngiad o 10% yn Siop Roddion yr Ardd a’r Ganolfan Arddio
- Disgowntiau ar gyrsiau a gynhelir yn yr Ardd, e.e. cadw gwenyn, gweithdai crefft a meddyginiaethau llysieuol ac ati.
Hefyd:
Mynediad am ddim i’r gerddi canlynol ar draws y DU
- Gardd Goed Westonbirt, Tetbury, Swydd Caerloyw
- Gardd Fotaneg Prifysgol Rhydychen a Gardd Goed Harcourt
- Gerddi Botaneg a Thai Gwydr Birmingham
- Y Fforest Law Fyw, Hampstead Norreys, Swydd Berkshire
- Gerddi a Gardd Goed Syr Harold Hillier, Swydd Hampshire
- Gerddi Organig HDRA, Ryton, Coventry
- Gardd Fotaneg Frenhinol Caeredin
- Gardd Fotaneg Younger, Argyll
- Gardd Fotaneg Logan, Galloway
- Gardd Fotaneg Dawyck, Gororau’r Alban
*Bydd ambell eithriad
Nodwch i bwy mae’r aelodaeth i’w ddanfon yn yr adran talu allan. Effallai byddwn yn cysylltu a chi i gael fwy o wybodaeth.
Rydym ond yn gallu danfon nwyddau o fewn y DU, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Cludiant am ddim – gweler ein telerau ac amodau am fanylion.
Gwybodaeth ychwanegol
Design | Aelodaeth sengl, Aelodaeth teulu, Aelodaeth a Mwy, Aelodaeth i ddau, Aelodaeth teulu un rhiant |
---|