£19.99 – £44.99
Disgrifiad
Wedi’i enwi ar ôl ein Gwarchodfa Natur Genedlaethol, Waun Las, mae’r jin sych Llundain hwn yn tynnu sylw at rywogaethau planhigion brodorol sy’n gyfeillgar i beillwyr ac, wrth gwrs, yn dathlu’r mêl a gynhyrchwyd gan wenyn Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Wedi’i ddistyllu ar ein cyfer gan “The Gower Gin Company“, mae gan y jin llysieuol, sawrus hwn nodiadau o fêl a chymysgedd braf o erwain, helygen y môr, dail mwyar duon, eithin, grug a gwreiddyn dant y llew. Gyda chymorth Jin Gŵyr ac ymchwil ein tîm gwyddoniaeth, rydym wedi creu jin amgen cymhleth gan ddefnyddio cynhwysion syml iawn yn ogystal â’n mêl poblogaidd fel elfen allweddol o’r gymysgedd.
Nifer cyfyngedig sydd ar gael. 70cl/20cl (43% vol).
Rhaid eich bod dros 18 i brynu alcohol. Bydd rhaid dangos ID wrth iddo gael ei dosbarthu
Rydym ond yn gallu danfon nwyddau o fewn y DU, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Cludiant am ddim – gweler ein telerau ac amodau am fanylion.
Gwybodaeth ychwanegol
Maint | 70cl, 20cl |
---|---|
Ydych chi dros 18 oed | Rydw i dros 18 oed |