
Nod Celtic Wildflowers yw cefnogi gwarchod planhigion brodorol.
Rydym yn tyfu dros 250 o rywogaethau brodorol, gan gynnwys coed a mwsoglau, dewisiadau’n seiliedig ar 30 mlynedd o weithio mewn cwmni ymgynghorol amgylcheddol. Yn ein gwaith i gyd rydym yn defnyddio arferion moesegol a dim mawn.
Rydym yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau wedi’u teilwra i fodloni anghenion sefydliadau, grwpiau neu unigolion sydd am wella bioamrywiaeth frodorol ar unrhyw lefel. Mae ymgysylltu â’r gymuned ehangach a chynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd blodau gwylltion er mwyn lles cenedlaethau’r dyfodol yn hanfodol i’r gwaith a wnawn.
Ewch i wefan Celtic Wildflowers am fwy o wybodaeth ar ei gwasanaeth archebu ar-lein.