Celtic Wildflowers

Nod Blodau Gwylltion Celtaidd yw cefnogi gwarchod planhigion brodorol. Rydym yn tyfu dros 250 o rywogaethau brodorol, gan gynnwys coed a mwsoglau, dewisiadau’n seiliedig ar 30 mlynedd o weithio mewn cwmni ymgynghorol amgylcheddol. Yn ein gwaith i gyd rydym yn defnyddio arferion moesegol a dim mawn.

Rydym yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau wedi’u teilwra i fodloni anghenion sefydliadau, grwpiau neu unigolion sydd am wella bioamrywiaeth frodorol ar unrhyw lefel.  Mae ymgysylltu â’r gymuned ehangach a chynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd blodau gwylltion er mwyn lles cenedlaethau’r dyfodol yn hanfodol i’r gwaith a wnawn.

Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth, ac anfonwch ymholiadau drwy e-bost neu ar y teleffon.  Dilynwch ni ar Facebook a Twitter.