Garddio ar Gyfer Peillwyr

Mae pryfed sy’n ymweld â blodau yn beillwyr hanfodol y bwyd rydym yn ei fwyta ac mae’r dirywiad yn eu niferoedd a’u hiechyd yn achos pryder mawr.

Mae peillwyr yn amrywiol gan gynnwys cacwn, pryfed hofran, gwenyn unigol, ieir bach yr haf a gwenyn mêl.  Wrth i ni golli cynefinoedd llawn blodau, newid yn yr hinsawdd a’r defnydd o blaleiddiaid, cafwyd effaith fawr ar ein peillwyr gwyllt a’r rhai a reolir.