Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Ble arall gallaf brynu planhigion gyda sicrwydd?

Mae planhigion gyda sicrwydd ar gael yn Siop Blanhigion y Pot Blodyn yn yr Ardd Fotaneg ac mewn canolfannau garddio a meithrinfeydd arbenigol ledled Cymru. Mae’r tudalen ‘Cwrdd â’r Tyfwyr’ ar ein gwefan yn rhoi gwybodaeth am bob meithrinfa sy’n cymryd rhan. Holwch bob meithrinfa am eu stoc gyfredol o blanhigion Achub Peillwyr gan na fydd yr holl blanhigion wedi eu sicrhau.

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun mae angen i blanhigion fod wedi’u tyfu heb ddefnyddio mawn na chemegau synthetig sy’n lladd pryfed, molysgiaid na ffwng. Os defnyddir pethau wedi’u prynu i mewn, megis hadau, bylbiau neu blanhigion plwg i gynhyrchu planhigion sydd wedi’u sicrhau, bydd angen i’r defnydd sy’n cael ei brynu i mewn fod wedi’i dyfu’n organaidd.  Bydd pob meithrinfa sy’n cymryd rhan wedi llofnodi datganiad i gytuno mai planhigion wedi’u tyfu yn ôl y safonau hyn yn unig fydd yn arddangos y logo Achub Peillwyr – ni fydd pob planhigyn ym mhob meithrinfa wedi’i sicrhau, felly, gofynnwch ym mhob meithrinfa a oes planhigion ar gael sydd wedi’u sicrhau. Bydd staff o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ymweld â meithrinfeydd ac yn cadw mewn cysylltiad agos â phob un i ddatblygu perthynas dda. Bydd meithrinfeydd yn darparu rhestri o stoc sy’n cael eu hadolygu gan wyddonwyr o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i weld pa blanhigion sy’n gymwys ar gyfer y cynllun, drwy fod wedi’u profi gan ymchwil wyddonol i allu cynnal peillwyr.

Ble gallaf weld gwybodaeth am y gwaith ymchwil gwyddonol?

Am fwy o wybodaeth ar ymchwil gwyddonol arloesol yr Ardd, ewch yma os gwelwch yn dda.

Ategir y cynllun gan ymchwil a gyhoeddwyd mewn papurau gwyddonol

Papurau o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru:

Lucas A, Bodger O, Brosi BJ, Ford CR, Forman DW, Greig C, Hegarty M, Neyland PJ & de Vere N (2018) Generalisation and specialisation in hoverfly (Syrphidae) grassland pollen transport networks revealed by DNA metabarcoding. Journal of Animal Ecology, 87(4), 1008-1021.

Lucas A, Bodger O, Brosi BJ, Ford CR, Forman DW, Greig C, Hegarty M, Jones LE, Neyland PJ & de Vere N (2018) Floral resource partitioning by individuals within generalised hoverfly pollination networks revealed by DNA metabarcoding. Scientific Reports, 8(1), 5133.

Lucas A, Bull JC, de Vere N, Neyland PJ & Forman DW (2017) Flower resource and land management drives hoverfly communities and bee abundance in semi-natural and agricultural grasslands. Ecology and Evolution. 7(19), 8073-8086.

de Vere N, Jones LE, Gilmore T, Moscrop J, Lowe A, Smith D, Hegarty M, Creer S & Ford CR (2017) Using DNA metabarcoding to investigate honeybee foraging reveals limited flower use despite high floral availability. Scientific Reports 7, 42838. 

Deiner K, Bik HM, Mächler E, Seymour M, Lacoursière-Roussel A, Altermatt F, Creer S, Bista I, Lodge DM, de Vere N, Pfrender ME & Bernatchez L (2017) Environmental DNA metabarcoding: Transforming how we survey animal and plant communities. Molecular Ecology. 26(21) 5872-5895.

Bell KL, de Vere N, Keller A, Richardson R, Gous A, Burgess K & Brosi BJ (2016) Pollen DNA barcoding: current applications and future prospects. Genome 59 (9): 629-640.

Hawkins J, de Vere N, Griffith A, Ford CR, Allainguillaume J, Hegarty MJ, Baillie L & Adams-Groom B (2015) Using DNA Metabarcoding to Identify the Floral Composition of Honey: A New Tool for Investigating Honey Bee Foraging Preferences. PLoS ONE 10(8): e0134735.

de Vere N; Rich T; Trinder SA & Long C (2015) DNA barcoding for plants. In Plant Genotyping: Methods and Protocols. Editor: Batley, J. Humana Press, New York.

de Vere N; Rich TCG; Ford, CR; Trinder SA, Long C, Moore CW, Satterthwaite D, Davies H, Allainguillaume J, Ronca S, Tatarinova T, Garbett H, Walker K and Wilkinson MJ (2012) DNA barcoding the native flowering plants and conifers of Wales. PLoS ONE 7(6): e37945

Ymchwil Arall:

Goulson, D., Croombs, A. & Thompson, J., 2018. Rapid rise in toxic load for bees revealed by analysis of pesticide use in Great Britain. PEERJ 6:e5255

Lentola, A., David, A., Abdul-Sada, A., Tapparo, A., Goulson, D. and Hill, E.M. (2017). Ornamental plants on sale to the public are a significant source of pesticide residues with implications for the health of pollinating insects. Environmental Pollution [Online] 228:297–304.

Garbuzov, M., Alton, K. and Ratnieks, F.L.W. (2017). Most ornamental plants on sale in garden centres are unattractive to flower-visiting insects. PeerJ [Online] 5:e3066.

Garbuzov, M. and Ratnieks, F.L.W. (2014). Listmania: The strengths and weaknesses of lists of garden plants to help pollinators. BioScience 64:1019–1026.

Goulson, D. 2013. An overview of the environmental risks posed by neonicotinoid insecticides. JOURNAL OF APPLIED ECOLOGY 50: 977-987

Ble arall gallaf brynu planhigion wedi’u tyfu’n gynaliadwy?

Mae gwybodaeth am gyflenwyr planhigion a hadau wedi’u tyfu’n organaidd i’w chael ar y gwefannau sy’n dilyn:

http://www.bloomsforbees.co.uk/certified-suppliers/

https://www.gardensillustrated.com/feature/best-organic-nurseries/

Mae gwybodaeth am gyflenwyr planhigion wedi’u tyfu heb fawn i’w chael ar y gwefan sy’n dilyn:

https://dogwooddays.net/

Sut medra i arddio mewn ffordd sy’n garedig i beillwyr?

Lawrlwythwch ein llyfryn cyfleus ‘Garddio ar gyfer Peillwyr’ yma.

Byddai fy meithrinfa i’n hoffi ymuno â’r cynllun.  Sut galla i ymuno?

Os ydych yn feithrinfa sy’n gwerthu planhigion i’r cyhoedd yn ym Mhrydain ac os hoffech gymryd rhan yn y Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr, gallwch gofrestru’ch diddordeb drwy anfon neges e-bost i: growing-the-future@gardenofwales.org.uk

Gwnaed y Cynllun Sicrwydd Achub Peillwyr yn bosibl trwy Tyfu’r Dyfodol, prosiect pum mlynedd sy’n cefnogi garddwriaeth yng Nghymru.