Ymborthiant Gwenyn Mêl

Mae gwenyn mêl yn bwysig iawn, yn ecolegol ac yn economaidd, fel peillwyr planhigion gwyllt a chnydau.

Mae pryder byd-eang am sut y mae heidiau o wenyn mêl yn cael eu colli ar raddfa gynyddol. Mae nifer o ffactorau’n arwain at y colledion, megis ffermio dwys, nedwid yn yr hinsawdd, colli cynefinoedd naturiol, heintiau a phlâu.

Prin yw’r astudiaethau manwl o ba blanhigion yn union y mae gwenyn mêl yn dewis eu defnyddio yn ystod y tymor, a pham.  Dyw’r prinder ddim yn syndod, gan fod astudiaethau’n gofyn am y gallu i benderfynu’n gywir pa blanhigion a ddefnyddir gan wenyn mêl mewn perthynas â planhigion sy’n blodeuo ar y pryd.

Ry’n ni’n defnyddio dulliau o godio-bar DNA sy’n ein galluogi i ddarganfod pa flodau y mae gwenyn mêl yn eu defnyddio. Gwneir hyn drwy samplu’r paill a gesglir gan y gwenyn a’r mêl a wneir ganddynt.

Ry’n ni’n astudio ein gwenyn mêl ein hunan, sydd i’w gweld yn ein Gardd Wenyn. Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn darparu amgylchfyd astudio unigryw er mwyn ateb cwestiynau am hoff flodau gwenyn mêl.   Mae hi’n cynnwys dros 5,000 o blanhigion blodeuol, ac yn darparu dewis eang ac amrywiol o rywogaethau o blanhigion brodorol ac anfrodorol ar gyfer gwenyn mêl.

Cyhoeddiadau

Lowe A., Jones L., Brennan G., Creer S., Christie L. de Vere N., (2022) Temporal change in floral availability leads to periods of resource limitation and affects diet specificity in a generalist pollinator Molecular Ecology

Jones L., Lowe A., Ford C.R., Christie L., Creer S., de Vere N., (2022). Temporal Patterns of Honeybee Foraging in a Diverse Floral Landscape Revealed Using Pollen DNA Metabarcoding of Honey, Integrative and Comparative Biology.

Jones, L., Brennan, G.L., Lowe, A., Creer, S., Ford, C.R., de Vere, N., (2021). Shifts in honeybee foraging reveal historical changes in floral resourcesCommunications Biology 4, 37.

Jones L. (2020) Investigating the foraging preferences of the honeybee, Apis mellifera L., using DNA metabarcoding. PhD thesis

de Vere N, Jones LE, Gilmore T, Moscrop J, Lowe A, Smith D, Hegarty M, Creer S, Ford CR (2017) Using DNA metabarcoding to investigate honey bee foraging reveals limited flower use despite high floral availabilityScientific Reports 7, 42838.