Datblygu ac arbrofi cymysgeddau hadau am beillwyr

Wrth i ddwysâd amaethyddol a threfoli cynyddu, mae gerddi ac ardaloedd hardd yn dod yn fywaf pwysig byth er mwyn cefnogi poblogaethau’r peillwyr. Mae hyn yn hanfodol gan fod y nifer o’n peillwyr wedi dirywio dros y 50 flynedd diwethaf ac maent yn hollbwysig ar gyfer peillio cnydau pwysig a phlanhigion blodeuol.

Gall rhestrau o blanhigion sy’n denu peillwyr ein helpu ni i ddewis y planhigion iawn, ond nid ydy’r rhestrau hyn yn seiliedig ar ddata gwyddonol go iawn, nac yn cynnwys rhai o’r planhigion pwysig sy’n denu pryfed peillio.

Mae myfyrwraig PhD Lucy Witter wedi bod yn ymchwilio cymysgeddau hadau sydd ar gael yn fasnachol i ddarganfod a allant ddarparu digon o adnoddau ar gyfer amrywiaeth o beillwyr gwyllt (gwenyn, cacwn, pryfed hofran a gwenyn unig). Yn yr Ardd mae yna dau safle le mae pedwar cymysg wedi cael eu hau: dau sydd wedi cael eu marchnata am dda i peillwyr, un cymysg brodorol ac un sydd wedi cael ei greu am esthetig. Mae’r cymysgeddau’n cael eu hastudio gan ddefnyddio dulliau arsylwi a thechnegau metabarcodio DNA i ddarganfod pa gyfran o rywogaethau o’r cymysgeddau sy’n cael eu defnyddio gan gymharu gyda’r adnoddau yn yr amgylchedd.
Fydd

Yn ogystal â’r ymchwil hon, mae Lucy wedi cynnal adolygiad systematig o lenyddiaeth gyhoeddedig ar ryngweithio planhigion-peillwyr ac wedi defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu dau gymysgedd hadau arbrofol a ddyluniwyd i ddenu amrywiaeth o rywogaethau peillwyr gwyllt. Treialwyd dau gymysgedd hadau arbrofol (un brodorol ac un anfrodorol) ar y safleoedd y soniwyd amdanynt o’r blaen a’u cymharu â chymysgeddau hadau sydd ar gael yn fasnachol gan ddefnyddio dulliau arsylwi. Gofynnwyd i ymwelwyr hefyd am eu barn ar apêl y cymysgeddau hadau, er mwyn cymharu y hoffter cyhoedd â dewis peillwyr.