Mae gan yr Ardd gasgliad enfawr o goed cerddin gwynion, Sorbus, ac rydym yn gweithio i amddiffyn rhywogaeth sy’n frodorol i’r DU.
O fewn genws y gerddinen wen, bydd rhywogaethau yn cynhyrchu hadau heb gael rhyw, sy’n golygu bod y disgynyddion yn glonau o’r rhieni. Weithiau bydd atgynhyrchiad rhywiol yn digwydd efo unigolion eraill, a rhwng rhywogaethau. Mae’r disgynyddion newydd cymysgryw hyn yn cael eu disgrifio fel rhywogaeth ar wahân, efo ecoleg a chynefinoedd gwahanol. Maent yn aml mewn niferoedd isel, ac mae llawer ohonynt yn brin.
Mae Tracey Hamston yn astudio ecoleg a geneteg y coed hyn er mwyn darganfod mwy am sut mae’r rhywogaethau newydd yma yn esblygu a phennu’r ffordd orau o warchod y grwpiau cymhleth hyn.