Diogelu planhigion a ffyngau
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn helpu’n weithredol i ddiogelu planhigion gwyllt, ffyngau a’u cynefinoedd, yng Nghymru a thu hwnt.
Mae ein tîm Gwyddonol yn ymchwilio i gadwraeth planhigion Cymreig a’u cynefinoedd, gan ymchwilio’r geneteg, dulliau lluosogi ac atgynhyrchu rhywogaethau. Ry’n ni’n darparu tystiolaeth sy’n sail i gadwraeth effeithiol o rai o’r planhigion a ffyngau Cymreig sydd fwyaf dan fygythiad – ynghyd â’u cynefinoedd. I wneud hyn, dibynnwn ar adnoddau labordy geneteg cadwraethol, arbenigedd garddwriaethol helaeth a’n Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
Mae barcodio DNA rhywogaethau planhigion yn ganolbwynt ymchwil i’r Ardd, a chydnabyddir arbenigedd ein prosiect barcodio DNA planhigion yn rhyngwladol.
Ni sy’n gyfrifol am y ffaith mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i farcodio DNA ei holl blanhigion blodeuol brodorol, gan ddarparu adnodd anhepgor i ymchwilwyr.
Yn y cyfamser, yn Borneo, rydym yn defnyddio barcodio DNA i bennu rhywogaethau coed trwy ddefnyddio geneteg. Mae’n waith sydd yn mynd rhagddo yn Danau Gitang, yn Sabah.