Rhwydwaith o Ddarparwyr Hyfforddiant

Ymunwch â’n Rhwydwaith o Ddarparwyr Hyfforddiant ledled Cymru
Mae prosiect Tyfu’r Dyfodol yn pwysleisio’r pwysigrwydd o blanhigion a gerddi ar gyfer iechyd a lles pobl, bywyd gwyllt a’r amgylchedd. Mae hyn yn bwysicach nag erioed. Yn ystod y cyfnod digynsail hon gall arwahanrwydd cymdeithasol gael effaith ar iechyd meddwl a chorfforol pobl. Rydym yn darparu cyngor, adnoddau ac ysbrydoliaeth i gael pobl i’w gerddi a/neu ryngweithio â’r byd naturiol ar-lein.
Gyda’r llacio o gyfyngiadau COVID-19 rydym bellach yn datblygu ein hamserlen ar gyfer cyrsiau wyneb yn wyneb ac ar-lein, ar gyfer y misoedd nesaf. Os hoffech chi ymuno â’n rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant ledled Cymru, gan ddarparu hyfforddiant garddwriaethol a dysgu gydol oes i unigolion (oedolion a phlant) a grwpiau gan gynnwys cymunedol a chymdeithasol, hoffem glywed wrthoch chi.
Mae’r Prosiect yn darparu hyfforddiant ar draws 5 thema fras:
- Garddwriaeth Ymarferol
- Gwyddoniaeth a Garddwriaeth
- Garddwriaeth a Chelf
- Garddwriaeth a Chrefftau
- Cyrsiau Garddwriaeth Fyr (< 1 awr o hyd)
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i ymuno â’n Rhwydwaith o Ddarparwyr Hyfforddiant, mae dogfennau ar waelod y dudalen hon i’w lawrlwytho. Am ymholiadau pellach, cysylltwch â Thîm y Prosiect ar gtfadmin@gardenofwales.org.uk os gwelwch yn dda.