Cynhyrchion y Cychod Gwenyn

Yn fwy na thebyg, mêl yw’r cynnyrch mwyaf adnabyddus o gadw gwenyn, ond mae ein gwenyn mêl yn darparu amrywiaeth o gynhyrchion eraill i ni megis cŵyr, paill a glud gwenyn.
Yma, fe ddewch chi o hyd i weithgareddau defnyddiol i’w mwynhau gartref gan ddefnyddio cynnyrch y cychod gwenyn, a ysgrifennwyd gan ein Hyfforddwraig Ecosystemau a Gwenynwraig, Lynda.
Balm Dwylo Rhosmari
Mae rhosmari yn ffynhonnell dda o wrthocsidyddion a chyfansoddion gwrthlidiol, y credir eu bod yn helpu i roi hwb i’r system imiwnedd a gwella cylchrediad y gwaed. Gall rhosmari helpu i amddiffyn y croen ac atal arwyddion heneiddio ac mae’n rhagorol wrth drin cyflyrau croen fel ecsema ac acne.
Dysgwch sut i wneud balm dwylo rhosmari a chŵyr gwenyn eich hun, a all cael ei ddefnyddio ar ôl treulio diwrnod yn yr ardd.
Balm Gwefus Cŵyr Gwenyn
Gall defnyddio balm gwefus helpu lleithio gwefusau sych, wedi’u torri neu wedi cracio a gwneir y balm gwefus cŵyr gwenyn hwn gan ddefnyddio cynhwysion naturiol yn unig.
Dysgwch sut i greu eich balm gwefus eich hun gyda’r adnodd defnyddiol hwn.
Sebon Mêl a Chlai
Gall gwneud eich sebon eich hun gartref fod yn weithgarwch llesol i’w fwynhau.
Dysgwch y broses o greu sebon mêl a chlai eich hun.
Deunydd Lapio Cŵyr Gwenyn
Os hoffech chi rhoi’r gorau o ddefnyddio deunydd un-tro, mae deunydd lapio bwyd cwyr gwenyn yn ddewis amgen gwych.
Gallwch eu defnyddio yn hytrach na haenen lynu, a gallwch eu hailddefnyddio a’u hadnewyddu’n hawdd os yw’r cwyr yn dechrau treulio.