
Yma, fe ddewch chi o hyd i amrywiaeth o weithgareddau addysgol i wneud adref, neu yn yr ysgol.
Cliciwch ar y teitlau isod am fwy o wybodaeth a dogfennau defnyddiol.
Creu Cynefin Bywyd Gwyllt
Mae cynefinoedd naturiol nifer o rywogaethau o fywyd gwyllt yn cael eu dinistrio, a hynny’n achosi colli nifer o rywogaethau brodorol yn y wlad. Mae’r golled hon yn cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth y tir.
Fodd bynnag, gallwn i gyd helpu drwy annog bywyd gwyllt i gornel o’n gerddi. Drwy wneud hynny mae bioamrywiaeth yn cynyddu, a hynny’n wych i’r amgylchedd ac i’r blaned.
Mae’r cyffro wrth wylio blodau gwylltion, adar, pili-pala, pryfed, creaduriaid bach a mamaliaid yn dechrau dod i fyw yn y lle bywyd gwyllt sydd wedi’i greu yn dod â llawenydd i’r galon a chyffro ac addysg i blant sy’n amhrisiadwy.
Tatws mewn Sachau a Moron mewn Potiau
Mae tyfu tatws a moron mewn sachau a bwcedi a photiau yn llawer o hwyl!
Mae’r prosiect hwn yn llawn mathemateg a gwyddoniaeth, a bydd plant yn cael hwyl wrth ddysgu gwneud gweithgareddau ymarferol.
Dydy hi ddim yn golygu na allwn dyfu llysiau dim ond oherwydd nad oes gennym ardd. Does dim byd tebyg i dynnu a bwyta tatws newydd a moron melys wedi’u tyfu gartref.
Gardd Lliwiau’r Enfys
Mae enfysau wedi bod yn ymddangos mewn ffenestri ledled Prydain yn ystod cyfnod cau COVID-19 i ddiolch i’r GIG a gweithwyr allweddol am eu gwaith anhygoel.
Bydd y gweithgaredd hwn yn dangos i chi sut i greu gardd enfys fel teyrnged fyw i’r bobl sy’n ein helpu, yn ogystal â darparu saladau iach trwy gydol misoedd yr haf.
Blodau Gwylltion Mehefin
Mis Mehefin yw uchafbwynt blodau gwyllt Prydain gan fod mwy o flodau yn agored nag yn ystod unrhyw fis arall o’r flwyddyn.
Mae Caru Natur Cymru wedi llunio’r canllaw hwn, y gellir ei lawrlwytho, i’ch helpu i adnabod rhai blodau gwyllt brodorol y gallwch ddod o hyd iddynt ym mis Mehefin.
Blodau Gwylltion Mai
Ddiwedd y gwanwyn, mae’r gwrychoedd yn llawn blodau gwyllt ac mae’r dolydd yn dechrau dod yn fyw.
Mae Caru Natur Cymru wedi creu’r adnodd adnabod gwych hwn, ewch ati i weld faint o’r rhywogaethau hyn y gallwch ddod o hyd iddynt.
Y Bocs Llysiau
Mae’r gweithgaredd hon yn annog plant i ddefnyddio sgiliau garddwriaethol i dyfu planhigion, a hynny gan ddefnyddio amrywiaeth o gynhwysyddion gwahanol sydd wedi’u hailgylchu, a hyrwyddo dychymyg a bwyta’n iach.
Blodau Gwylltion Ebrill
Ebrill yw un o’r misoedd gorau i flodau gwylltion, yn enwedig rhai’r coedlannau.
Mae Caru Natur Cymru wedi creu’r adnodd adnabod gwych hwn, faint ohonynt gallwch chi eu darganfod?
Blog: Dechreuwch Gofnodi Bywyd Gwyllt Yn Eich Gardd
Mae gerddi yn gynefinoedd hanfodol i fywyd gwyllt, yn darparu cysgod a lloches. Nid oes llawer o bobl yn ymwybodol o’r ffaith bod holl arwynebedd gerddi’r DU yn fwy nag y cyfanswm o’r holl Warchodfeydd Natur Genedlaethol ni – sy’n golygu os bydden ni i gyd yn edrych ar ôl ein darn bach ni, bydden ni yn cyfrannu at gefnogi bioamrywiaeth.
Mae’n gyfnod delfrydol i ddechrau cofnodi bywyd gwyllt, o ganlyniad i’r holl amser yr ydym nawr yn gwario gartref a’r newid yn y tywydd!
Mwydod Mwdlyd
Mae mwydod yn greaduriaid rhyfeddol! Dysgwch fwy amdanynt gan fwynhau’r weithgaredd gwyddonol hwn yn yr awyr agored, gan ddefnyddio eitemau cyffredin y cartref.