
Mae Gweithgareddau Gyda’n Gilydd yn weithgareddau hwylus i bawb fwynhau!
Cliciwch ar y teitlau isod am fwy o wybodaeth a dogfennau defnyddiol.
Concyrs
Mae plant ers canrifoedd wedi bod yn chwarae â choncyrs.
Does dim byd yn cymharu â’r teimlad wrth grensian o gwmpas ymhlith y dail anferth dan gysgod castanwydden y meirch yn chwilio am goncyrs gwerthfawr ar ddiwrnod o hydref.
Yn yr adnodd hwn, dysgwch rhai gemau a gweithgareddau y gallwch fwynhau gyda choncyrs.
Cacen Foron
Mae cacen foron yn ddantaith melys i’w fwynhau orau gyda phaned o de, ac mae ei phobi yn weithgaredd a gall gael ei fwynhau gan y teulu cyfan.
Yn y fideo hwn, mae Rebecca o Arty Cooks yn eich dysgu chi sut i wneud cacennau cwpan moron.
Rysáit ar gael yma.
Creu Tŷ Draenog
Mae tua miliwn o ddraenogod yng Nghymru, yr Alban a Lloegr yn ôl amcangyfrifon diweddar, i’w gymharu â 30 miliwn yn y 1950au. – Newyddion BBC
Wrth gyflwyno cartref draenog i’ch gardd, bydd hyn yn darparu lle diogel i ddraenogod gaeafgysgu dros fisoedd y gaeaf. Dysgwch sut i adeiladu eich cartref draenog eich hun gan ddefnyddio deunyddiau wedi’i ailgylchu gyda’r gweithgaredd hwyliog hon.
Bwydwyr Pilipala
Mae’r bwydwyr pilipala hyn yn syml a’n hwyl i’w gwneud, a byddant yn helpu i ddenu amrywiaeth o bilipalau i’ch gardd!
Deunydd Lapio Cwyr Gwenyn Hawdd
Os hoffech chi rhoi’r gorau o ddefnyddio deunydd un-tro, mae deunydd lapio bwyd cwyr gwenyn yn ddewis amgen gwych.
Gallwch eu defnyddio yn hytrach na haenen lynu, a gallwch eu hailddefnyddio a’u hadnewyddu’n hawdd os yw’r cwyr yn dechrau treulio.
Hwyl a Sbri gyda Natur
Mae gemau’n bwysig i blant, ac mae’r casgliad o weithgareddau hyn yn annog plant i adnabod planhigion, gwybod eu henwau a chwilio amdanyn nhw.
Bydd y wybodaeth fyddan nhw’n ei dysgu wrth chwarae yn para pan fyddan nhw’n oedolion, ac felly’n dal i gael eu dysgu i genedlaethau’r dyfodol o blant.
Taith Gerdded Ddyddiol i Ddarganfod Natur
Trawsnewidiwch eich taith gerdded ddyddiol yn Daith Darganfod Natur gyffrous. Byddwch yn dditectif natur sy’n sylwi ar drysorau naturiol, ac yn eu cofnodi a’u casglu. Paciwch eitemau hanfodol ar gyfer y daith gerdded er mwyn bod yn fforiwr craff. Mae misoedd Ebrill, Mai a Mehefin yn berffaith i wylio a darganfod natur yn ymagor.
Sut i greu Gwestai Gwenyn
A wyddoch chi fod y rhan fwyaf o wenyn heb frenhines, nid ydynt yn creu mêl ac yn byw ar ben ei hun?
Mae’r gwenyn hyn yn cael eu galw’n gwenyn unigol, ac mae gennym ni dros 250 rhywogaeth wahanol yn y DU, dyma rhai efallai eich bod eisoes wedi clywed amdanynt; gwenyn torri dail, gwenyn turio, saerwenynen a llawer mwy. Mae’r gwenyn hyn yn beillwyr gwych, ond maen nhw’n llawer llai adnabyddus na gwenyn mêl a chacwn. Nid ydynt yn ymosodol o gwbl, felly y dylem ein hannog i’n gerddi.
Er mwyn helpu i gefnogi poblogaethau gwenyn unigol yn eich gardd, gallwch greu gwesty gwenyn eich hun lle gallwch chi wylio cylch bywyd y creaduriaid hyfryd hyn. Mae’n wirioneddol beth anhygoel i weld gwenyn bach yn cario deunydd i wneud nyth ar ben ei hun.
Picnic y Tedis a Llewych Dant y Llew
Mae Swyddog Addysg yr Ardd, Rebecca, wedi crynhoi cwpl o weithgareddau llawn hwyl i’w gwneud yn yr ardd.