
Diolch i’n cefnogwyr, staff, gwirfoddolwyr ac aelodau, ry’n ni wedi creu gardd fotaneg genedlaethol y gall Cymru fod yn falch ohoni.
Fodd bynnag, mae ein hadnoddau’n parhau i fod yn brin, ac ry’n ni’n parhau i dderbyn tua thraean yn unig o’n cyllid angenrheidiol oddi wrth y Llywodraeth, a rhaid inni gynhyrchu’r gweddill drwy’n gweithgareddau ni ein hunain. Yn yr hinsawdd economaidd presennol, does dim byd yn debyg o newid o gwbl.
Un ffordd y gallwch ein helpu yw trwy drefnu rhodd i’r Ardd yn eich ewyllys. Mae cymynrodd yn un o’r rhoddion mwyaf personol y gall unrhyw un ei wneud, ac mae hi ond yn naturiol bod ein meddyliau’n troi yn gyntaf at y rhai agosaf atom ni.
Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn dewis gadael rhywbeth i achos da neu sefydliad sydd ag arwyddocâd arbennig iddyn nhw.
Os hoffech gefnogi’r Ardd yn y dull hwn, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad isod os gwelwch yn dda, neu galwch 01558 667149, neu e-bostiwch: owen.thomas@gardenofwales.org.uk
Does dim angen dweud, bydd popeth a drafodir yn cael ei gadw’n gyfrinachol.
Gary Davies, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr.