Noddi Mainc

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn lle arbennig lle gallwch ymgysylltu â natur a mwynhau hoe dawel o fywyd pob dydd.

Mae noddi mainc yn gyfle ichi anrhydeddu’r cof am rywun annwyl ichi gyda lle arbennig ichi ymweld, eistedd, cofio a myfyrio.

Mae gan bawb eu hoff fan: o’r Rhodfa hardd ar hyd y ffrwd atgofus, yr Ardd Ddeu-fur  unigryw a hanesyddol i’r llwybrau niferus sy’n eich arwain i lannau llynnoedd a golygfeydd tawel.

Gyda rhodd o £1,800 gallwch noddi mainc am 10 mlynedd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae pob mainc yn cynnwys plac ar gyfer eich neges bersonol a thystysgrif atgoffa. Mae gennym nifer o leoliadau lle gellir gosod meinciau, felly rhowch wybod i ni os oes lleoliad penodol y mae gennych ddiddordeb ynddo. Os hoffech chi noddi mainc sy’n bodoli’n barod, y gost yw £1,200, ac unwaith eto mae’n cynnwys plac i’ch neges bersonol a thystysgrif coffa.

Am ragor o wybodaeth am noddi mainc neu goeden yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, cysylltwch orders@gardenofwales.org.uk neu ewch i’n siop ar-lein.


Mae Telerau ac Amodau yn gymwys, a dylech eu darllen cyn penderfynu noddi.