Gardd Fotaneg Genedlaethol CymruNational Botanic Garden of WalesNational Botanic Garden of Wales

Hanes yr Ardd

Mae gan Ystad Middleton hanes cyfoethog sy’n rhychwantu dros 400 o flynyddoedd, o’i sefydlu yn y 1600au cynnar gan Christopher Middleton, Ficer Llanarthne, i’w hail-ymgnawdoliad presennol fel Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Gyda’i gwreiddiau ym mordeithiau cynharaf Cwmni India’r Dwyrain, mae Ystad Middleton yn profi dylanwad dwfn a phwysig teuluoedd o Gymru yn nhwf Ymerodraeth Prydain.