Blogiau'r Ardd

Addysgwyr yr Ardd – Rebecca Thomas

gan

Os yw eich plentyn neu eich ŵyr neu’ch wyrion wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch penwythnos i blant neu yn ystod y gwyliau ysgol yn yr Ardd Fotaneg, mae’n weddol sicr mai Rebecca fydd wedi ei redeg neu ei drefnu. Ers iddi gymryd rhan gyntaf yn adran addysg yr Ardd yn 2011, mae Rebecca wedi bod yn datblygu ein gweithgareddau teuluol o ychydig ddiwrnodau’r flwyddyn i fwy na chant mewn blwyddyn. Yn ddiweddar mae wedi datblygu’r rhain fel adnoddau Tyfu’r Dyfodol ar gyfer teuluoedd i’w gwneud yn eu cartrefi, yn enwedig yn ystod y pandemig Covid.

Ble cawsoch chi eich magu, Rebecca?

Cefais fy magu yn ardal y Cotswolds ar Barc Fferm y Cotswolds. Fy nhad oedd y Bugail. Roedd yn lle rhyfeddol i dyfu fyny, a’r tu allan a’r awyr agored a’r anifeiliaid oedd fy nghae chwarae. Mae fy nhad yn cadw gwenyn ac yn wybodus am nifer o grefftau cefn gwlad. Mae fy rhieni ill dau yn arddwyr brwd erioed.

Sut cawsoch chi eich hyfforddi i fod yn addysgwraig? Roeddech yn arfer bod yn fugail?

Ar ôl gadael yr ysgol penderfynais ddilyn fy nhad a mynd i ffermio. Cyn gorffen y Diploma Cenedlaethol yn y coleg amaeth lleol,  deuthum i Gymru i gael profiad gwaith am chwe mis. Yma roeddwn yn godro’r gwartheg ar y fferm drws nesaf ond un i’r man lle rydyn ni’n byw nawr.

Ar ôl gorffen yn y coleg amaeth bûm yn gweithio ar fferm yn godro gwartheg, ond defaid oedd fy nghariad cyntaf erioed, a bûm yn ffodus i gael gwaith fel bugail ar fferm ddefaid fawr a hoffais hynny.

Dechreuais fusnes garddio bychan ger Llandeilo yn mynd i erddi pobl a gofalu amdanynt. Roeddwn yn hoffi’r gwaith, y planhigion a’r bobl roeddwn yn gweithio iddyn nhw.

Rwyf bob amser am rannu’r wybodaeth sydd gennyf gyda phobl eraill, oherwydd rwy’n teimlo’n fraint  bod wedi dysgu gan gynifer o bobl brofiadol ac ysbrydoledig eraill. Sylweddolais fod angen cael cymhwyster i wireddu’r freuddwyd, ac yn 2010 enillais radd mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Tra oeddwn yn y Drindod dechreuais wirfoddoli yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a syrthiais mewn cariad â’r Gerddi. Rwy’n dal mewn cariad â’r Gerddi ar ôl yn agos i 10 mlynedd.

Beth yw eich swydd bresennol?

Ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda’r prosiect Tyfu’r Dyfodol ac yn ei fwynhau’n fawr iawn. Rwy’n cynllunio ac yn paratoi gweithgareddau ar-lein i oedolion a phant eu gwneud yn eu gerddi eu hunain ac yn y wlad o gwmpas. Ysbrydoli pobl i ymgysylltu â natur, dysgu mwy am arddio a thyfu eu bwyd eu hunain ac am iechyd a llesiant. Mae wedi bod yn gyfle i fi ehangu fy sgiliau drwy ysgrifennu, ac i feddwl gyda dychymyg am weithgareddau gan ddefnyddio adnoddau sydd ar gael yn y cartref. Mae’r gweithgareddau ar gael ar y wefan ac yn rhad i’w lawrlwytho.

Rydych yn helpu yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las?

Mae buches o 20 o wartheg Duon Cymreig  yn y warchodfa natur yn Waun Las a phraidd o 40 o ddefaid Balwen. Rydw i’n helpu Huw Jones, rheolwr y fferm.

Mae’n swydd rwy’n teimlo’n fraint bod ynddi.  Y defaid Balwen yw fy ffefrynnau – defaid bach, caled yn llawn cymeriad.  Mae’r warchodfa natur yn llawn bywyd gwyllt a blodau gwylltion – mae’n bleser bod yno.

Rydych chi wedi creu gweithgareddau ar gyfer nifer rhyfeddol o ddigwyddiadau, bob un yn gofyn am ddysgu rhywbeth newydd ar eich rhan. Yn eu plith mae ieir, meddygaeth planhigion, cennau, coed, peillwyr, hanes, tylwyth teg, garddio, ffyngau, coginio a hyd yn oed seryddiaeth. Ydw i wedi anghofio unrhyw beth?

Mae gen i dîm o wirfoddolwyr  a chydweithwyr arbennig o ddawnus sy’n helpu dod â’r  gweithgareddau at ei gilydd a’u darparu, a hebddyn nhw ni fyddai hyn yn digwydd.

Bob tro pan fyddwn yn dechrau ar bwnc newydd, byddaf yn ei gymharu ag agor ffenestr fach ar fyd y mae llawer o bobl yn treulio’u hoes yn gyfan yn gweithio ynddo a’i astudio. Rydyn ni’n camu i mewn iddo ac yn ei astudio. Rydyn ni’n camu i mewn i’r byd hwnnw ac yn ceisio cael cymaint o wybodaeth â phosibl gan yr arbenigwyr.

Wedyn rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i greu gweithgareddau a gwybodaeth sy’n galluogi eraill i gael eu hysbrydoli, i ddysgu a’u hannog, boed am beillwyr, ffyngau neu unrhyw rai o’r digwyddiadau eraill rydyn ni wedi’u trefnu. Byddwn bob amser yn dysgu mwy o wybodaeth a syniadau defnyddiol gan yr ymwelwyr sy’n cymryd rhan yn y gweithgarwch, a bydd yr wythnos o weithgareddau’n aml yn datblygu ac yn tyfu wrth inni ddysgu rhagor.

Dros y blynyddoedd rydyn ni wedi gwneud nifer o ffrindiau da a ffyddlon o blith unigolion a theuluoedd, sy’n dod yn ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn i’r gweithgareddau.

Rydyn ni’n cael llawer iawn o hwyl fel tîm, ac rydyn ni bob amser yn chwilio am bobl sy’n hoffi gwirfoddoli – mae’n waith sy’n rhoi llawer o foddhad.

Rydyn ni wedi’ch gweld mewn gwisg ffansi mewn nifer o weithgareddau. Oes gennych chi hoff wisg?

Gwraig y perlysiau. Mae hi’n gwybod llawer iawn, iawn mwy nag a ddysgaf i byth am blanhigion a’u defnyddio. Wrth roi ei gwisg amdanaf a mynd i gwmpas yr Ardd, rwy’n teimlo fy mod mewn byd arall.

Oes gennych chi hoff ran o’r Ardd?

Gardd yr Apothecari. Mae’n fy swyno’n llwyr. Mae gan y planhigion i gyd gymaint o ffyrdd o’u defnyddio, yn feddygol, i goginio ac yn arddwriaethol. Mae cymaint i’w ddysgu am bob planhigyn, mae Gardd yr Apothecari fel gwyddoniadur di-ben-draw.

Yn olaf, a oes rhywbeth rhyfeddol amdanoch rydych yn fodlon dweud wrthym amdano?   

Ychydig flynyddoedd yn ôl dechreuais loncian yn araf iawn ar hyd y lonydd o gwmpas. Ym mis Awst y llynedd heriais fy hun i redeg 26 milltir… i ffwrdd â fi i Fannau Brycheiniog ar fy mhen fy hun a chael diwrnod bendigedig. Rhedais bob cam, ac roeddwn mor boenus am y 5 milltir olaf ond roedd yn werth y cyfan. Rwy’n mwynhau rhedeg, a phan rwy’n rhedeg rwy’n teimlo’n agos ar Dduw, yn agos at natur sy’n agor o ‘mlaen wrth i’r tymhorau newid.