Te Prynhawn i Ddau

£75.00

Dewch i ddarganfod harddwch Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gyda phrofiad Te Prynhawn i ddau berson yn lleoliad eiconig y Tŷ Gwydr Mawr.

Disgrifiad

Dewch i ddarganfod harddwch Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gyda phrofiad Te Prynhawn i ddau berson yn lleoliad eiconig y Tŷ Gwydr Mawr.

NODER: DYDDIADAU DDIM AR GAEL AM RHAGFYR 2023 AM Y PROFIAD HWN

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnig amrywiaeth ysbrydoledig o erddi thema, y tŷ gwydr un bwa mwyaf yn y byd, tŷ trofannol, mannau chwarae a gwarchodfa natur genedlaethol i gyd mewn tirwedd o gyfnod y Rhaglywiaeth ym  mryniau hardd cefn gwlad Sir Gaerfyrddin. Dewch i archwilio’r dirwedd dreftadaeth hon o lynnoedd wedi’u hadfer, chwe phont newydd, gorlifannau a rhaeadr ddramatig.

Yr Ardd Fotaneg yw’r mwyaf a’r gorau yng Nghymru, ac yn ganolbwynt iddi mae’r Tŷ Gwydr a gynlluniwyd gan yr Arglwydd Foster. Saif ar y tir fel diferyn mawr o law, ac mae’r adeilad 3,500 metr sgwâr fel Arch Noah ar gyfer planhigion sy’n brin neu dan fygythiad o bob rhan o’r byd.

Beth am roi anrheg i chi’ch hun a chyfaill neu rywun annwyl, neu brynu hyn yn rhodd i’r bobl arbennig yn eich bywyd?

Mae’r profiad Te Prynhawn hwn y costio £75 i ddau berson ac yn cynnwys:

  • Mynediad i ddau berson i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
  • Mae Te Prynhawn yn y Tŷ Gwydr Mawr eiconig. Mae hyn y cynnwys te neu goffi, amrywiaeth o frechdanau, teisennau a melysion. Mae te arbenigol ar gael drwy wneud cais. Darperir ar gyfer anghenion arbennig hefyd. Rhodd am ddim – Hamper bach o roddion sy’n arbennig i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
  • Amser rhydd i fwynhau crwydro drwy’r 568 erw yn yr Ardd Fotaneg.

Ar ôl ei phrynu, bydd taleb Te Prynhawn yn cael ei hanfon atoch gyda manylion sut i drefnu cael eich profiad, a bydd hon yn ddilys am chwe mis. Cofiwch, er hynny, ar adegau prysur na fydd rhai dyddiadau ar gael.

Mae’r profiad Te Prynhawn ar gyfer dau berson ond os hoffech ddod â pherson ychwanegol, anfonwch e-bost i Sarah.Williams@gardenofwales.org.uk

Os ydych yn aelod o’r Ardd Fotaneg, ac os hoffech brynu’r profiad hwn, anfonwch e-bost i Sarah.Williams@gardenofwales.org.uk