Teyrngedau i Rob Jolliffe

Rob Jolliffe

19 Tachwedd 1960­ – 28 Rhagfyr 2022

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Rob Jolliffe, cyn gadeirydd ymddiriedolwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Bu Mr Jolliffe yn bennaeth bwrdd yr Ardd Fotaneg am 10 mlynedd o 2008. Rhoddodd y gorau i’r swydd ym mis Mai 2018.

Fe’i ganed yn y Mwmbwls ym 1960 a’i fagu yn Brighton. Aeth i Goleg Keble, Rhydychen lle bu’n astudio hanes modern.

Ar ôl graddio aeth i Ddinas Llundain a chael gyrfa lewyrchus yno, gan gynnwys swyddi uchel gyda Merrill Lynch, JP Morgan a Goldman Sachs.

Meddai ei gyfaill agos, Steffan Williams, sy’n un o ymddiriedolwyr presennol yr Ardd: “Roedd yn berson cynnes, hael. Ymunodd Rob â’r Bwrdd am ei fod eisiau cyfrannu at fywyd Cymru, ac mae’n deg dweud bod ei ymwneud wedi bod yn sylweddol.”

Meddai Gary Davies, cadeirydd presennol yr Ardd Fotaneg: “Parhaodd Rob Jolliffe yn gefnogwr brwd i’r Ardd Fotaneg. Rydym yn anfon ein cofion at ei wraig a’i blant  a’i ffrindiau niferus iawn.”

Roedd Mr Jolliffe yn byw yng Nghaerfaddon, a gedy ei wraig Jo a’i blant George, Emily, Charlie ac Isabel.