Talu teyrnged i Ymddiriedolwr yr Ardd

Bu farw John Ellis, is-gadeirydd y bwrdd o ymddiriedolwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Roedd Mr Ellis, 78, o Landdarog, ger Caerfyrddin, wedi bod yn wirfoddolwr yn yr Ardd am dros 20 mlynedd.  Fe ddaeth yn ymddiriedolwr yn 1995 – pedwar blynedd cyn iddi agor – at ddymuniad y prif weithredwr yr adeg honno, William Wilkins. Cafodd John ei anrhydeddu gydag AYB llynedd, yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines.

Meddai Cyfarwyddwr yr Ardd, Huw Francis:  “Mae hyn yn newyddion trist iawn.  Nid oedd John wedi bod yn iach am sbel ond fe wnaeth weithio’n galed i gadw ei lefel uchel, arferol, o angerdd ac ymrwymiad.”

Wedi geni yn Abergynolwyn ym Meirionnydd, roedd Mr Ellis – siaradwr Cymraeg iaith-gyntaf – yn ddisgybl o Ysgol Ramadeg Towyn, cyn astudio gradd Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe.  Fe aeth gyrfa o addysgu a Mr Ellis i Fryste, Canolbarth Gorllewinol Lloegr a Swydd Warwig, cyn iddo ddychwelyd i Gymru i weithio i awdurdod addysg leol Abertawe.  Yn dilyn cyfnod o weithio gydag AAL Gorllewin Morgannwg, cafodd Mr Ellis ei apwyntio yn ddirprwy cyfarwyddwr o addysg yn Nyfed ac yna’n cael ei wneud yn gyfarwyddwr yn 1990.

Cymerodd ymddeoliad cynnar yn 1996 cyn ad-drefniant yr awdurdod lleol.

Ers hynny, yn ogystal â’i ymdrechion diddiwedd i’r Ardd Fotaneg, gwnaeth Mr Ellis gwirfoddoli gyda’r elusen Dolen Cymru Lesotho, sy’n helpu plant amddifaid yn ne’r deyrnas Affricanaidd; yn un o sefydlwyr Menter Cwm Gwendraeth; ac oedd yn llysgennad o wobr y Dug Caeredin.

Mae Mr Ellis yn cael ei goroesi gan ddau o blant a chwe ŵyr.  Buodd yn briod i Miriam am 48 mlynedd cyn iddi farw yn 2008.