Prosiect Peillio

Allwch chi adeiladu’r Palas Peillwyr gorau yn yr haf eleni?

Dychmygwch fyd heb siocled neu eich hoff ffrwythau.  Mae’n syniad ofnadwy, a gall fod yn wir os nad ydym yn helpu i warchod pryfed peillio natur.

Mae gwenyn a gwenyn meirch, pilipalau a gwyfynod, chwilod a phryfed hofran a hyd yn oed adar ac ystlumod yn helpu peillio planhigion, gan gynnwys nies o’n bwydydd blasus.  Maen nhw nid yn unig yn darparu bwyd inni, ond maen nhw hefyd yn helpu ein hamgylchedd naturiol i ffynnu.

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a phrosiect Tyfu’r Dyfodol, ynghyd ag aelodau’r Grŵp Eco Attractions yn rhedeg cystadleuaeth gyffrous yn ystod yr haf eleni mewn canolfannau ymwelwyr ledled y DU, ac yn gofyn i chi greu Palas Peillwyr er mwyn helpu gwarchod peillwyr natur.  Os hoffech chi gael her, ac os ydych dan 16 oed, dyma sydd angen ichi ei wneud:

  1. Brasluniwch eich Palas Peillwyr, a elwir hefyd yn westy pryfed neu westy gwenyn.  Gallwch fynd i www.ecoattractions.com neu’ch llyfrgell leol am help a syniadau.  Mae blog defnyddiol ar ein gwefan yma.
  2. Casglwch bethau i greu eich Palas, gorau oll os byddan nhw wedi eu hailgylchu – gallwch ddefnyddio poteli plastig neu duniau gwag.  Os bydd angen, gofynnwch i oedolyn helpu ei hadeiladu, a chofiwch addurno’ch Palas yn lliwgar i ddenu peillwyr!
  3. Chwiliwch am rywle yn eich gardd, neu gofynnwch i ffrind sydd â gardd, i osod eich Palas Peillwyr.  Tynnwch ffotograff ohono a’i llwytho ar Instagram eich rhiant/gwarchodwr (gan fod rhaid bod yn 13 mlwydd oed neu’n hyn i gael cyfrif) gan ddefnyddio’r hashnod #projectpollinate2019 a chynnwys @ecoattractions.  Gwnewch hyn cyn Medi 3ydd 2019 a byddwch yn cael eich cynnwys yn awtomatig yn y gystadleuaeth.
  4. Bydd un o’n gwyddonwyr peillio a barnwr annibynol yn dewis 15 o’r prif Balasau cyn i’r tymor ysgol newydd ddechrau ar gyfer gwobr arbennig, megis cit heulol, profiad o fod yn warcheidwad a llawer mwy!  Cewch wybod os ydych chi’n enillydd drwy Instagram.

Pob lwc!

Trwy gymryd rhan rydych yn cytuno i’r telerau ac amodau a nodi yn nhelerau ac amodau ein cystadleuaeth a welwyd yn yr atodiad.