Prosiect llesiant ysbrydoledig yn falm i’r enaid

Mae prosiect newydd gwerth £1.3 miliwn, sy’n debygol o hybu lles pobl, planhigion a pheillwyr Cymru, wedi cael sêl bendith.

Mae ‘Caru Natur Cymru’ yn cael ei arwain gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a’i ariannu gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru. Prif bartneriaid cyflenwi’r prosiect yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru a Phrifysgol Abertawe.

Nod gyffredinol Caru Natur Cymru yw cynyddu llesiant pobl, bioamrywiaeth a’r amgylchedd, a hynny ledled Cymru, gan ddefnyddio tri phecyn gwaith cydgysylltiedig: Mannau Ysbrydoledig, Glaswelltiroedd am Oes a Phlanhigion ar gyfer Pobl.

Bydd yn arwain at y canlynol:

• ‘glasu’ lleoedd hanfodol yn yr awyr agored, a hynny mewn mannau lle gall pobl gael y budd mwyaf ohonynt;
• amddiffyn a gwella ein tirluniau glaswelltir mwyaf prydferth; a
• dathlu treftadaeth naturiol Cymru trwy amddiffyn y planhigion hynny sydd fwyaf mewn perygl yng Nghymru.

Ar frig rhestr weithredu’r prosiect y mae safleoedd sy’n amgylchynu ysbytai, canolfannau iechyd a chyfleusterau iechyd meddwl, a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – un o’r partneriaid allweddol yn y prosiect.

Dywedodd Pennaeth Gwyddoniaeth yr Ardd Fotaneg ac arweinydd Caru Natur Cymru, Dr Natasha de Vere: “Byddwn yn cynyddu’r hygyrchedd, ynghyd â’r gwerth o ran bioamrywiaeth, ac yn creu cynefinoedd bywyd gwyllt hanfodol. Byddwn yn creu mannau gwyrdd ysbrydoledig i bobl gysylltu â’r amgylchedd naturiol a chael budd ohono. Bydd yr hyn a wnawn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu modelau y gellir eu rhoi ar waith ledled Cymru.”

Ac yntau’n Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe, bu’r Athro Andrew Davies yn un o’r ffigurau allweddol y tu ôl i’r prosiect. Dywedodd yr Athro Davies, a ymddeolodd o’r rôl yn ddiweddar: “Rwyf wrth fy modd â’r newyddion hwn, sydd wedi datblygu o bartneriaeth unigryw a grëwyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

“Bydd yn sicrhau manteision enfawr i lesiant cleifion a staff, yn ogystal ag i’r cymunedau ehangach, a hynny trwy ymgysylltu mwy â byd natur.

“Fel y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i ennill statws y Faner Werdd, mae Bae Abertawe wedi ymrwymo’n llwyr i weithio gyda natur a datblygu seilwaith gwyrdd ar ei dir a’i safleoedd niferus, gan gynnwys ei ysbytai.

“Mae’n hysbys i bawb fod ymgysylltu â’r amgylchedd naturiol yn helpu i wella llesiant pobl ac ansawdd eu bywyd, a hefyd yn helpu iddynt wella yn dilyn salwch.”

Bydd elfen ‘Mannau Ysbrydoledig’ y prosiect yn sicrhau bod ardaloedd awyr agored nad ydynt yn cael eu defnyddio i’r eithaf yn cael eu trawsnewid yn fannau sy’n llawn bywyd gwyllt, lle gall pobl fwynhau a chael adferiad gan fyd natur.

Bydd byddin o grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr yn cael eu recriwtio i gyflawni hyn, ynghyd â phob agwedd ar y gwaith – a byddant yn parhau i hyrwyddo’r achos wedi i’r prosiect ddod i ben.

O dan y pennawd ‘Glaswelltiroedd am Oes’, dywedodd Dr Andrew Lucas o CNC: “Bydd y prosiect hwn yn chwyldroi’r modd yr ydym yn monitro glaswelltiroedd, ac yn ein galluogi i reoli, adfer a chreu safleoedd sy’n hyrwyddo bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau. Byddwn yn defnyddio codau bar DNA pridd arloesol i bennu’r biosffer cyfan o laswelltiroedd, gan gynnwys planhigion, anifeiliaid, ffyngau a microbau.”

Bydd y rhan hon o’r prosiect yn canolbwyntio ar laswelltiroedd ledled Cymru, gan amrywio o laswelltir amwynder yn ystad Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a safleoedd gwastraff pyllau glo, i laswelltir cadwraeth mewn Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ym mhob cwr o Gymru.

Bydd y gydran olaf – ‘Planhigion ar gyfer Pobl’ – yn ddathliad o dreftadaeth planhigion naturiol Cymru.

Dywedodd Dr de Vere: “Byddwn yn sicrhau bod y planhigion sydd yn y perygl mwyaf, ynghyd â rhywogaethau glaswelltir allweddol, yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol trwy fynd ati i gasglu hadau ar gyfer Banc Hadau Cenedlaethol Cymru. Byddwn yn datblygu dulliau i sicrhau bod hadau rhywogaethau glaswelltir sy’n tarddu o Gymru ar gael ar gyfer prosiectau adfer a chreu yn y dyfodol.”

“Mae’r prosiect cyffrous hwn yn greiddiol i gyflawni cenhadaeth yr Ardd Fotaneg. Yn arbennig, mae’n pwysleisio rôl gymdeithasol yr Ardd ac yn cynyddu ei chyfraniad at y gwaith o gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.”

Dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Bydd y prosiect hwn yn cyfrannu’n helaeth at y gwaith o gynnal a gwella bioamrywiaeth trwy gydweithrediad rhwng cyrff cyhoeddus Cymru, cymunedau ac academyddion sy’n arwain y byd. Bydd hefyd yn fuddiol i les corfforol a meddyliol ein cymunedau trwy gynyddu hygyrchedd mannau gwyrdd sy’n gyfoethog mewn natur”.

“Dyma’r union fath o weithgarwch ar y cyd y mae ei angen i fynd i’r afael â’r argyfwng ecolegol sy’n effeithio ar rywogaethau a chynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru, ac mae’n dangos sut y mae amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael eu gwireddu ar lawr gwlad.”