Sefydlwyd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn y flwyddyn 2000, a hynny er mwyn creu gardd fotaneg newydd ar gyfer y mileniwm newydd.
Rydym yn ymrwymedig i waith ymchwil a chadwraeth bioamrywiaeth, cynaliadwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad ein hymwelwyr.
Mae’r Ardd Fotaneg wedi’i lleoli ar safle Ystad Middleton, ac rydym wedi bod yn archwilio hanes yr ystad hwn yn rhan o’r Prosiect Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth.
Roedd perchnogion blaenorol yr ystad wedi cronni eu cyfoeth trwy gyfrwng gweithgarwch trefedigaethol, ecsbloetiol, gan gynnwys caethwasiaeth.
Nid ydym wedi gwneud digon i adrodd y rhan honno o’u hanes. Hoffem ymddiheuro am hyn, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wella ar hyn yn y dyfodol.
Rydym yn ymdrechu i fod yn Ardd Fotaneg ar gyfer holl bobl Cymru, ac yn ceisio ymgysylltu â chymunedau ar hyd a lled y wlad, ond mae angen i ni wneud llawer mwy, ac rydym yn croesawu pob cyfle i ymgysylltu â sefydliadau ac unigolion er mwyn sicrhau bod y broses hon mor gynhwysol â phosibl.
Ar hyn o bryd, mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn recriwtio aelodau newydd i gefnogi datblygiad y sefydliad, a byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion a fyddai’n ehangu cynrychiolaeth cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru ar y Bwrdd.
Ewch i https://garddfotaneg.cymru/get-involved/work-for-us/ i gael rhagor o wybodaeth.