Llwybr y Gryffalo yn barod i agor

Mae’n cynnwys pum cerflun enfawr a thrawiadol o gymeriadau o’r llyfrau bythol boblogaidd a grëwyd gan Julia Donaldson ac Axel Scheffler: Llygoden, Llwynog, Tylluan, Neidr a’r Gryffalo.

Bydd y llwybr yn agored bob dydd gyda’r nod o annog plant i fwynhau’r awyr agored ac i fentro i’r coed.

Gwnaethpwyd y cymeriadau gan Garry Turler, cerflunydd coed a gwaith celf llif gadwyn o Gwmtwrch, yng Nghwm Tawe.

Dywedodd Garry, sy’n rhedeg Wildboar Carvings: “Rwy’n hapus dros ben fy mod wedi cael cais i greu’r Gryffalo a chreaduriaid eraill ar gyfer Llwybr newydd y Gryffalo yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.

“Rwyf wedi gorfod cadw’n dawel am hyn ers tro, ond gallaf ddweud ‘nawr i le maent yn mynd.”

Dywedodd David Hardy, Pennaeth Marchnata yr Ardd: “Mae’r crefftwaith yn anhygoel ac yn helpu i ddod â’r stori boblogaidd hon yn fyw. Rydym yn siŵr y byddant yn llwyddiant mawr ac yn atyniad enfawr i’r ardd hyfryd hon.”

Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ar agor o 10am bob dydd.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i garddfotaneg.cymru