‘Haf i’r Pilipala’ y flwyddyn nesaf

Mae’n rhaid i ni wneud yr haf nesaf yn Haf i’r Pilipala – a rhaid i’r gwaith dechrau nawr.

Mewn ymateb i’r cwymp dramatig yn y nifer o bilipalod, a adroddir gan Gyfrif Mawr y Pilipala eleni, mae arbenigwyr yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn annog pawb i chwarae eu rhan i amddiffyn y peillwyr pwysig yma.

Dywedodd Pennaeth Gwyddoniaeth ac Addysg yr Ardd, Dr Natasha de Vere: “Rhaid i ni weithredu nawr i wneud yr haf nesaf yn ‘haf y pilipala’ ac mae’r newyddion da yn golygu bod digon y gallwn wneud i helpu yng ngerddi ein hun.

“Prynwch y llwyni cywir, ac os ydych yn prynu’ch hadau a bylbiau nawr, sicrhewch eich bod yn canolbwyntio ar blanhigion lluosflwydd sy’n dda i bilipalod.”

Ychwanegodd Natasha: “Ond, mewn gwirionedd, rhaid canolbwyntio ar y lindys.”

“Yn aml, mae cyfnod aeddfed y pilipala yn fyr – yn lliwgar a’n hanfodol, ond yn fyr iawn. Maent yn gwario’r mwyafrif o’u bywydau fel lindys ac felly mae rhoi digon o ‘fwyd llysieuol iddynt yn mynd i fod yn hanfodol.”

Fe eglurodd bod y rhywogaethau gwahanol o bilipalod yn gofyn am wahanol ‘fwydydd llysieuol’ ar gyfer eu larfae (lindys). Mae’n bwysig i gydnabod bod y pilipalod prydferth yr ydym i gyd yn hoff o weld yn ein gerddi ond yn un rhan o gylch pwysig iawn.

“Un peth pwysig iawn yr ydym wedi dysgu wrth weithio ar ein Plas Pilipala trofannol newydd sbon,” meddai Natasha, “yw bod rhaid i ni dalu sylw manwl ar bob cam os ydym am wneud hyn yn llwyddiant. Mae’n mynd yn dda iawn gyda’r rhywogaethau egsotig gyda channoedd o bilipalod yn hedfan ar un adeg.”

Am ein rhywogaethau brodorol, rydym yn parhau i blannu planhigion sy’n dda i bilipalod yn ardaloedd allweddol yr Ardd ac i addasu i arddio’n llai taclus i annog pob math o bilipalod, rhai sy’n hoffi gwair hir i ddodwy eu hwyau a rhai sydd well gan ddanadl, er enghraifft.”

Neges arall pwysig iawn yw bod rhaid i ni osgoi rhag defnyddio pryfleiddiaid ar ein gerddi, fe ychwanegodd.

Y 10 planhigyn gorau i sicrhau Haf i’r Pilipala
1. Buddleia (Coeden Fêl)
2. Verbena bonariensis (Ferfain yr Ariannin)
3. Lafant
4. Blodyn y Fagwyr Barhaol
5. Penrhudd (Oregano)
6. Ysgall, suran, tafolen a danhadlen
7. Smoc y Foneddiges
8. Capan Cornicyll
9. Swllt Dyn Tlawd
10. Eiddew

10 Gair o gymorth i greu gardd sy’n addas am bilipalod
wedi crynhoi gan Gadwraeth y Pilipala http://butterfly-conservation.org/
1. Tyfwch lawer o flodau sy’n llawn neithdar rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd.
2. Dewiswch wahanol blanhigion i ddenu amrywiaeth ehangach o rywogaethau. Rhowch rhai mathau o blanhigion gyda’i gilydd mewn blociau.
3. Ymestynnwch y cyfnod blodeuo gan dorri’r pennau meirwon a’u ddwrhau yn dda. Mae planhigion wedi dwrhau’n dda yn cynhyrchu fwy o neithdar.
4. Tyfwch fwydydd llysieuol i lindys o bilipalod a gwyfynod.
5. Gadewch i ardal o wair tyfu’n hir.
6. Gadewch ardal o ‘wyn’ dyfu, megis dant y llew a phys-y-ceirw i lewyrchu.
7. Gadewch ardaloedd gwag o wal, ffens a daear, neu rhowch gerrig mawr mewn borderi heulog, er mwyn i’r pilipalod gallu bolaheulo.
8. Crëwch resi o goed sy’n cynnig cysgodfannau, plannwch lwyni cymysg, brodorol, sy’n amddiffyn pilipalod a gwyfynod rhag y gwynt.
9. Tyfwch blanhigion dringo ar waliau a ffensiau, ble gall pilipalod a gwyfynod cysgodi o’r gwynt a rhew.
10. Gwnewch bentwr o foncyffion, ble gall pilipalod a gwyfynod gaeafgysgu. Mae rhai gwyfynod yn cynhyrchu mewn pren wedi marw hefyd.
Mae’r Ardd ar agor o 10yb hyd at 6yp, gyda’r mynediad diwethaf am 5yp.

Mae mynediad i’r Ardd yn £9.75 (yn cynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion a £4.95 i blant dros bum mlwydd oed. Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd ac mae parcio am ddim i bawb.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad yma, neu unrhyw ddigwyddiad arall, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

Gall y darn newyddion o Gadwraeth y Pilipala ar Gyfrif Mawr y Pilipala cael ei gweld yma