Gary yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd newydd Bwrdd Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Yn frodor o Sir Gaerfyrddin ac yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, Gary Davies yw Cadeirydd newydd Bwrdd Ymddiriedolwyr un o gyrchfannau ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru a chanolfan ryngwladol enwog ym maes ymchwil wyddonol, garddwriaeth a rhaglenni addysgol.

Mae’n cymryd yr awenau oddi wrth y brodor o’r Mwmbwls, Rob Jolliffe, a ymddiswyddodd ym mis Mehefin ar ôl deng mlynedd wrth y llyw.

Dywedodd Gary ei bod yn fraint ac anrhydedd cael ei benodi i rôl y Cadeirydd: “Mae ‘Gardd Cymru’ yn atyniad godidog gyda’i thŷ gwydr mawr trawiadol a’i chanolfan ragoriaeth ar gyfer casgliadau o blanhigion prin a hardd o bob cwr o’r byd – ac mae’n bartner allweddol yn economi ymwelwyr, gwyddonol a botanegol cynyddol bwysig Cymru.

Gan dalu teyrnged i’w ragflaenydd, ychwanegodd Gary: ‘’Fy ngwaith i yw parhau i ddatblygu ac adeiladu ar y gwaith gwych a wnaed dan arweiniad Rob Jolliffe, a sicrhau bod y sefydliad yn goresgyn yr heriau strategol sydd i ddod.”

Ac yntau’n meddu ar dros 36 mlynedd o brofiad o weithio mewn swyddi uwch-reoli yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. Mae Gary yn adnabod yr Ardd yn dda iawn gan mai ef oedd ei chyfarwyddwr marchnata cyntaf rhwng 1997 a 2001, a hynny cyn ymgymryd â rôl arobryn Prif Swyddog Gweithredol Partneriaeth Twristiaeth De-orllewin Cymru am bron 15 mlynedd, ac yna rôl Prif Weithredwr Dros Dro yr Ardd am gyfnod yn 2016.

Yn gynharach eleni, bu staff, gwirfoddolwyr ac aelodau’r Ardd yn dathlu’r nifer mwyaf o ymwelwyr mewn cyfnod o 17 mlynedd.

Yn ystod y 12 mis hyd at 31 Mawrth, croesawodd yr Ardd 161,762 o bobl, sef y nifer mwyaf er 2001. Roedd hyn yn gynnydd o 20 y cant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ac yn gynnydd aruthrol o 41 y cant o gymharu â 2015-16.

Mae yna ragor o ddathlu i’w wneud hefyd. Hyd yma eleni, mae nifer yr ymwelwyr yn fwy na’r hyn a welwyd yn 2017-18.

Gan groesawu penodiad Gary, dywedodd y Cyfarwyddwr, Huw Francis: “Mae ein Gardd yn ffynnu. Gyda nifer yr ymwelwyr yn parhau i gynyddu ac wedi cynhyrchu gwarged bach yn 2017, mae’r sefydliad yn symud ymlaen gydag egni newydd.”

Ychwanegodd Huw: “Ym mis Mehefin eleni, agorwyd Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, atyniad sydd wedi bod yn boblogaidd tu hwnt ymhlith yr ymwelwyr, a hynny yn dilyn lansiad Plas Pilipala, ardal chwarae newydd i blant, ac amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer y teulu. Mae gennym hefyd gynlluniau mawr ar gyfer atyniadau newydd a chyffrous yn y dyfodol. Gyda chymorth gan Lywodraeth Japan a Llywodraeth Cymru, rydym yn adnewyddu’r ardd Japaneaidd arobryn yng Ngardd Fotaneg Cymru, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i adfer y parcdir a llynnoedd hanesyddol godidog trwy gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a ffynonellau eraill.”

 

Nodiadau i’r Golygydd:

  • Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn elusen sy’n ymroi i waith ymchwil a chadwraeth bioamrywiaeth; ac i gynaliadwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad yr ymwelydd.
  • Agorodd ym mis Mai 2000 yn un o dri phrosiect eiconig y Mileniwm yng Nghymru. Dyma’r unig un y tu allan i’r brifddinas – saif ar barcdir hanesyddol (Ystad Middleton) sy’n ymestyn dros 568 o erwau ac sy’n cynnwys gwarchodfa natur genedlaethol a fferm organig, yn ogystal â rhai o’r planhigion sy’n wynebu’r perygl mwyaf yn y byd.
  • Mae’r Ardd ar agor bob dydd o’r flwyddyn, ac eithrio Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig.
  • Mae Julie James, sy’n Ymddiriedolwr ers 2012, hefyd wedi cael ei phenodi’n Is-gadeirydd. Mae Julie wedi gwasanaethu’n flaenorol ar fyrddau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac mae’n aelod o Fwrdd Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ar hyn o bryd.

 

  • Dyma aelodau Bwrdd Ymddiriedolwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru:
  1. Gary Davies – Cadeirydd
  2. Julie James – Is-gadeirydd
  3. Derek Howell
  4. Elizabeth Whittle
  5. Syr Roger Jones
  6. Steffan Williams
  7. Mike Woods
  8. Pat O’Reilly
  9. Eluned Parrott
  10. Tim Jones
  11. Y Cyng. Dai Jenkins
  12. Paul Smith
  13. Rhodri Glyn Thomas