Gardd sy’n blodeuo yn cyrraedd yr uchelfannau

 

Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn dathlu cynnydd arall yn nifer yr ymwelwyr – gan ragori hyd yn oed ar ffigur llynedd a oedd ar ei uchaf ers 17 mlynedd.

 

Roedd cyfanswm o 163,403 o ymwelwyr hamdden wedi croesi’r trothwy yn yr atyniad yn Sir Gaerfyrddin rhwng dechrau mis Ebrill 2018 a diwedd mis Mawrth 2019. Yn ogystal â bod yn ffigur uchaf o ran nifer yr ymwelwyr ers i’r Ardd agor yn 2000, mae hwn yn gynnydd ar y ffigur tair blynedd yn ôl pan oedd y cyfanswm ar gyfer y flwyddyn (2015-16) ychydig dros 114,000.

 

Dywedodd y cyfarwyddwr, Huw Francis: “Mae cynyddu ein ffigurau bron 50,000 mewn tair blynedd yn llwyddiant ysgubol i’r Ardd Fotaneg, yn glod i waith caled ein staff a gwirfoddolwyr, ac yn adlewyrchiad o’r gefnogaeth enfawr yr ydym yn ei chael gan ein haelodau a’n cyfeillion.”

 

Ond, yn ôl Mr Francis, bu yna adegau eraill yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a oedd yn gerrig milltir ac a oedd cyn bwysiced â nifer y bobl a ddaeth trwy’r gatiau: “Nid yw’n ymwneud yn unig â nifer yr ymwelwyr â gardd fotaneg: mae’n rhaid i ni weithio yr un mor galed i gyflawni nodau pwysig eraill hefyd.”

 

Eglurodd fod yr Ardd Fotaneg, fel sefydliad cenedlaethol, yn darparu buddion allweddol ar gyfer Cymru, yn enwedig mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: “Mae darparu dros 27,000 o ddigwyddiadau addysgol gyda’n tîm bach yn drobwynt enfawr i ni,” meddai. “Ac mae’r gwaith eithriadol y mae ein timau Gwyddoniaeth a Garddwriaeth yn ei wneud ledled y byd – yn ogystal ag yn ein milltir sgwâr ein hun – yn rhywbeth y gall Cymru gyfan fod yn falch ohono.”

 

Mewn cyfnod o bryder ynghylch niferoedd pryfed yn disgyn yn gyffredinol, mae gwyddonwyr gerddi yn canolbwyntio ar eu prosiect Achub Peillwyr, sy’n golygu ymchwilio i ymddygiad peillwyr er mwyn sicrhau gwell sail i’r hyn y gallwn ei wneud i helpu pryfed i ffynnu, i adfer eu cynefin, ac i gynnal adferiad rhywogaethau.

 

Eleni, sefydlwyd Banc Hadau Cenedlaethol Cymru gyda chymorth arbenigol Banc Hadau’r Mileniwm a Cadwraeth Gerddi Botaneg Rhyngwladol (BGCI). Yn y cyfamser, mae gwaith cadwraeth ac ymchwil ar adfer fforestydd glaw yng ngorlifdir y Kinabatangan yn Borneo yn parhau, yn ogystal â gwaith ar rywogaethau planhigion mewn perygl yng Nghymru.

 

Ychwanegodd Mr Francis: “Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ganolfan rhagoriaeth sy’n arwain y byd mewn Gwyddoniaeth, Garddwriaeth a Chadwraeth, ac sy’n cynrychioli Cymru ar lwyfan y byd. Mae hefyd yn brif gyrchfan ar gyfer ymwelwyr, ac rydym yn gobeithio bod Cymru gyfan mor falch o’i Gardd Fotaneg Genedlaethol ag yr ydym ni.”

 

Ychwanegodd Gary Davies, Cadeirydd yr Ardd: “Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn elusen annibynnol sy’n edrych ymlaen at ddathlu ei phen-blwydd yn 20 oed yn 2020. Wrth i’r gwaith ymchwil a chadwraeth hanfodol fynd rhagddo, a hynny mewn cyfnod sy’n ymddangos yn un heriol – o ran cynyddu nifer yr ymwelwyr ac o ran sicrhau’r cyllid gofynnol ar gyfer y math o weithgareddau gwyddonol ac addysgol yr ydym yn anelu at eu cynnal – byddwn yn dyblu’n hymdrechion ar bob lefel ac yn edrych ymlaen at groesawu hyd yn oed rhagor o ymwelwyr yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.”

 

Nodiadau i’r Golygydd:

  • Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn elusen sy’n ymroddedig i ymchwil a chadwraeth bioamrywiaeth, i gynaliadwyedd a dysgu gydol oes, ac i fwynhad ein hymwelwyr.
  • Mae cenhadaeth yr Ardd Fotaneg yn cyd-fynd yn agos â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni’r nodau hyn ar gyfer pobl Cymru.
  • Mae’r ddogfen, Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi yng Nghymru yn darparu cynllun ar gyfer twf economaidd cryf, yn ogystal â sylfaen ar gyfer cyflawni’r Nodau Llesiant mewn modd cynaliadwy. Mae’r Ardd Fotaneg yn anelu at sicrhau sylfaen gref, yn ariannol ac yn fasnachol, gydag incwm o fynediad ymwelwyr, gweithgareddau corfforaethol a gweithgareddau codi arian, mentrau masnachol newydd, a chymorth hanfodol gan Lywodraeth Cymru, i hwyluso’r gwaith o gyflawni nodau craidd ein cenhadaeth.
  • Mae garddio a gerddi yn darparu buddion cyfarwydd iawn ar gyfer gwella iechyd a lles, ac yn darparu gweithgarwch corfforol yn ogystal â mannau ysbrydoledig (Gardens and Health, The King’s Fund, David Buck, 2016).
  • Dyma’r ffigurau ar gyfer ymwelwyr hamdden â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf:

2014-15 – 113,170;

2015-16 – 114,420;

2016-17 – 134,383;

2017-18 – 161,751;

2018-19 – 163,403.