Drama ffilm yn cael effaith arbennig ar haf rhagorol yr Ardd

Mae drama deledu, â Demi Moore yn seren ynddi, wedi dod â chyffyrddiad o gyfaredd Hollywood i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Yr atyniad yn Sir Gaerfyrddin oedd y lleoliad yn ystod deuddydd o ffilmio ar gyfer cyfres ddrama deledu Americanaidd sydd i ymddangos yn fuan ac sy’n seiliedig ar nofel ffuglen wyddonol ddystopaidd Aldous Huxley, Brave New World.

Yn rhan o’r gwaith ffilmio gan gwmni Steven Spielberg, Amblin Television, ac Universal Content Productions, roedd cast a chriw o fwy na 100 wedi meddiannu’r Tŷ Gwydr Mawr.

Dyma oedd yr eisin ar gacen yr haf gogoneddus i’r Ardd Fotaneg, a welodd gynnydd eto yn nifer yr ymwelwyr, perfformiad ariannol cadarn, a chyffro enfawr ynghylch dyfarniad o gyllid ar gyfer prosiect arbennig o’r enw Caru Natur Cymru.

Dywedodd cyfarwyddwr yr Ardd, Huw Francis: “Rydym wedi cael blwyddyn dda iawn hyd yn hyn, ac roedd y prosiect ffilmio yn ddiweddglo cyffrous i’r tymor i ni. Daethant, a gweithio eu hud yn y Tŷ Gwydr Mawr, ac yna aethant. Roedd y ffordd y cyflawnwyd y cyfan yn drawiadol dros ben.

Aeth Mr Francis yn ei flaen i longyfarch tîm yr Ardd ar y canlyniadau hanner blwyddyn: “Roedd ffigur ymwelwyr y llynedd yn uchafbwynt i 17 mlynedd yn hanes yr Ardd, ac, ar hyn o bryd, rydym nid yn unig eisoes y tu hwnt i’r niferoedd hynny, ond mae ein perfformiad pum mlynedd hefyd yn amlygu cynnydd o bron 50 y cant. Ac mae’r holl newyddion da hyn yn ganlyniad i waith caled ac ymroddiad ein holl staff a gwirfoddolwyr.”

Cofnododd yr Ardd ffigur ymwelwyr o 76,971 yn y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Medi 2015. Y ffigur ar gyfer yr un chwe mis yn 2019 yw 110,199.

Mae Caru Natur Cymru yn brosiect gwerth £1.3 miliwn a lansiwyd ym mis Awst, ac sy’n addo rhoi hwb i les pobl, planhigion a pheillwyr Cymru. Mae’n cael ei arwain gan yr Ardd Fotaneg, sy’n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru a Phrifysgol Abertawe. Y nodau yw ‘gwyrddu’ lleoedd awyr agored pwysig; amddiffyn a gwella ein tirweddau glaswelltir mwyaf prydferth; a dathlu treftadaeth naturiol Cymru trwy amddiffyn y planhigion hynny sydd fwyaf mewn perygl.

Dywedodd y cyfarwyddwr: “Mae’r prosiect rhagorol hwn yn eistedd ochr yn ochr â’n datblygiadau allweddol cyfredol eraill, sef Tyfu’r Dyfodol ac Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth . Rydym hefyd wedi cael y fraint fawr o chwarae rhan yn y gwaith o adfer Gardd Goffa Aberfan.”

Yr haf hwn hefyd, daeth un o raglenni blaenllaw BBC TV, yr Antiques Roadshow, ar ymweliad â’r Ardd, ym mis Gorffennaf; ailagorwyd yr Ardd Siapaneaidd ym mis Mehefin; a daeth noddwr yr Ardd, Tywysog Cymru, i agor yr arddangosfa Diogelu  Planhigion Brodorol Cymru yn swyddogol – mae’r arddangosfa’n cynnwys planhigion o warchodfeydd natur Cymru, a hynny o Gwm Idwal i Benygogarth Fawr a Chynffig Burrows, yn ogystal â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las o eiddo’r Ardd Fotaneg ei hun.

Yna, ym mis Awst, enillodd yr Ardd le yn yr Ultimate United Kingdom Travelist, a gynhyrchir gan gyhoeddwr canllawiau teithio mwyaf eiconig y byd, Lonely Planet, a lle mae’n disgrifio’r Ardd fel a ganlyn: “hands down, one of Britain’s most phenomenal gardens”.

 

Nodiadau i’r Golygydd:

  • Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn elusen sy’n ymroddedig i ymchwil a chadwraeth bioamrywiaeth, i gynaliadwyedd a dysgu gydol oes, ac i fwynhad ein hymwelwyr.
  • Mae cenhadaeth yr Ardd Fotaneg yn gyson iawn â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni’r nodau hyn ar gyfer pobl Cymru.
  • Mae Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu ar yr Economi yng Nghymru yn darparu cynllun ar gyfer twf economaidd cadarn, yn ogystal â sylfaen ar gyfer cyflawni’r Nodau Llesiant mewn modd cynaliadwy. Mae’r Ardd Fotaneg yn anelu at sicrhau sylfaen gref, yn ariannol ac yn fasnachol, gydag incwm o fynediad ymwelwyr, gweithgareddau corfforaethol a gweithgareddau codi arian, mentrau masnachol newydd, a chymorth hanfodol gan Lywodraeth Cymru, i hwyluso’r gwaith o gyflawni nodau craidd ein cenhadaeth.
  • Mae garddio a gerddi yn sicrhau buddion cyfarwydd iawn ar gyfer gwella iechyd a lles, ac yn darparu gweithgarwch corfforol yn ogystal â mannau ysbrydoledig (Gardens and Health, The King’s Fund, David Buck, 2016).
  • Dyma’r ffigurau o ran ymwelwyr hamdden yn ystod y cyfnod o fis Ebrill i fis Medi gydol y pum mlynedd ddiwethaf:

2019 – 110,199

2018 – 107,661

2017 – 106,965

2016 – 83,654

2015 – 76,971