Disgyblion yn plannu hadau heddwch o hen goed

Mae pump o blant o ysgol Gwaun Cae Gurwen wedi ymweld â’r Ardd Fotaneg i blannu hadau o goeden gingko a oedd yn tyfu ychydig dros 1,000 o fetrau o’r man lle ffrwydrodd y bom.

Cyflwynwyd yr hadau gan bobl Hiroshima i Awel Awen Tawe, cymdeithas gymunedol yn Nyffryn Aman sydd ar hyd o bryd yn adeiladu canolfan gelfyddydau ac addysg ddi-garbon yng Nghwm-gors – Hwb y Gors.

Bydd y coed yn cael eu plannu yn yr ardd yn Hwb y Gors fel arwydd o heddwch ac adnewyddu.

Dywedodd Ayshea Cunniffe-Thomas , yr uwch arddwraig: “Mae’n bleser bob amser gallu trosglwyddo sgiliau allweddol hau a thyfu, yn enwedig gyda phrosiect arbennig.

“Roedd y plant yn gwrando’n astud, a gwnaethant waith gwych yn plannu’r hadau. Ond cawsom amser hefyd i gael hwyl a mynd ar daith o gwmpas yr Ardd,” meddai Ayshea.

Rheolwr y Prosiect yn Hwb y Gors yw Emily Hinshelwood, ac meddai hi: “Cawsom daith ddifyr i’r Ardd Fotaneg. Bu pump o arddwyr ifanc  brwdfrydig yn plannu’r hadau ac yn mwynhau taith o gwmpas y Tŷ Gwydr Mawr.

“Mae’n addas iawn mai’r genhedlaeth ifanc ddylai fod yn plannu’r hadau, a rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar i weld yr egin ifanc hyn yn ffynnu.

“Bu’r disgyblion hefyd yn plannu hadau o goeden Cas Gan Fwnci (monkey puzzle) hen iawn  a oedd yn tyfu yn Aberhonddu.”

Meddai Louise Griffiths, y swyddog ymgysylltu yn Hwb y Gors: “Hwn yw dechrau prosiect yr ardd yn Hwb y Gors, a bydd y coed Cas Gan Fwnci yn edrych yn arbennig yn yr ardd. Gwnaeth y disgyblion waith arbennig yn plannu’r hadau, ac maen nhw’n awyddus iawn i ddod nôl i’r Ardd Fotaneg yn y gwanwyn.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymestyn ymhellach ein cysylltiadau gydag ysgol Gwaun Cae Gurwen a’r Ardd Fotaneg.”

Mae hadau o’r ‘hen’ goed yn cael eu dosbarthu ar draws y byd gan y prosiect  Green Legacy Hiroshima sydd â’i ganolfan yn y ddinas yn Siapan. Daw’r hadau roedd y disgyblion yn eu plannu o goeden Ginkgo biloba a oedd y tyfu wrth ymyl Teml Hosenbo, prin 1,120m o safle’r ffrwydriad.

Mae’r Ardd Fotaneg hefyd yn cymryd rhan yn y prosiect Green Legacy Hiroshima, ac mae’n plannu hadau ei hun i gefnogi neges y prosiect o heddwch a’i threftadaeth werdd. 

 

Lluniau · Tim Jones Photography