Croeso
Mae’r croeso’n gynnes ond mae’r gwres yn wyrdd
Bu’r haf yn un prysur dros ben ac nawr edrychwn ymlaen at raglen lawn o ddigwyddiadau dros yr hydref a’r gaeaf.
Does dim dwywaith fod gweithgareddau amrywiol wedi denu mwy o ymwelwyr atom, a llawer ohonynt yn ymweld am y tro cyntaf. Gŵyl gomedi, sioe’r adar ysglyfaethus bob dydd, y cyfle i abseilio lawr waliau’r adeilad Gwyddoniaeth: dyna rhai o’r pethau a oedd yn sicr o ddenu. Ond beth bynnag oedd y rheswm iddynt ddod yma, credwn mai golygfeydd ysblennydd o’r Ardd ei hun fydd wedi aros yn y cof, a hynny diolch i’r gwaith caled a wneir i’w chadw a’i chynnal. Credwn yn siŵr y bydd ymwelwyr ‘newydd’ yn dychwelyd atom.
Tu ôl i’r llenni, rhaid buddsoddi yn yr is-adeiledd er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Ardd. Eleni, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, bu modd inni osod sytem rheoli gwres newydd sbon yn y Tŷ Gwydr Mawr, y Tŷ Trofannol a’r tai gwydr lle mae planhigion yn egino. Bydd hyn yn galluogi’r tîm garddwriaeth i ofalu’n effeithiol am y casgliadau o blanhigion ac mae’n ddefnydd ‘gwyrddach’ o ynni yn ogystal. Newyddion da o ran ein cyllideb ac o ran dyfodol y blaned.
Mae’n fwrlwm yma wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen i adfer y parc dŵr hanesyddol i’w ogoniant, ac mae digonedd o gynlluniau a cheisiadu eraill ar y gweill. Edrychwn ymlaen at flwyddyn cyffrous a chofiadwy arall i’r Ardd.
– Huw Francis, Cyfarwyddwr
Gallwch ddarllen y cylchgrawn i gyd drwy lawrlwytho’r atodiad ar y dudalen hon.