Casgliad prin yn abwyd i gasglwyr creiriau

Bydd gwialenni, riliau, plu a llyfrau pysgota prin yn abwyd i gasglwyr a selogion fel ei gilydd yn Ffair Greiriau a Marchnad Nwyddau Clasurol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddydd Sadwrn a dydd Sul 5-6 Hydref.

Bydd casglwr o Sir Gaerfyrddin yn arddangos eitemau y mae wedi’u casglu mewn oes o bysgota. Mae’r eitemau o ansawdd uchel yn cynnwys gwialenni, riliau ac eitemau eraill gan Hardy, Farlows, Sharpes of Aberdeen, Orvis a gwneuthurwyr eraill.
Ar wahân i’r eitemau pysgota, bydd yna lawer o bethau eraill i’r ymwelwyr fynd i’r afael â nhw.

Yn cystadlu hefyd am brif sylw’r digwyddiad y mae crochenwaith o Gymru – yn amrywio o grochenwaith Abertawe, Morgannwg, Llanelli a chasgliad Ewenni, sy’n dod yn gynyddol boblogaidd; arddangosfa ragorol o ddodrefn derw o’r 17eg a’r 18fed ganrif; tecstilau Cymreig a charthenni tapestri; llestri Tsieina a phorslen dwyreiniol; dillad clasurol; pwysau papur prin; gemau gwisgo; a chasgliad helaeth o lyfrau a phaentiadau Cymreig.

Bydd y stondinwyr yn manteisio ar holl leoliadau’r Ardd a gellir eu gweld yn y Tŷ Gwydr Mawr, Tŷ Principality, y Babell Fawr, Theatr Botanica a Sgwâr y Mileniwm.

Eitemau milwrol, mapiau hanesyddol, mesurau copr, offer garddio a phwysau papur prin hardd hefyd yn cael eu harddangos.

Cwmni Arwerthu Roger Jones o Gaerdydd yn y Ffair i roi cyngor a gwybodaeth am eu Tŷ Arwerthu. Bydd y cwmni hefyd yn arddangos paentiadau Cymreig arbennig iawn.

Mae digon o le parcio ar gael yn rhad ac am ddim, a bydd yna groeso i gŵn sy’n ymddwyn yn dda ar y safle. Bydd y ffair yn agor am 10am ac yn cau am 4.30pm; y pris mynediad yw £5, sy’n cynnwys mynediad i’r Ardd Fotaneg a’r ffair.

I gael rhagor o wybodaeth am y trefnwyr, sef Derwen Fairs, cysylltwch â Brita Rogers ar 01267 220260 a 07790 293367, neu ewch i derwenantiques.co.uk