Yr Ardd Fotaneg yn cael ei henwebu ar gyfer gwobr fyd-eang ddisglair

Mae’r Prosiect Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth, sy’n cynnwys dau lyn newydd, pontydd, argaeau, cwympiadau dŵr, rhaeadr a rhwydwaith helaeth o lwybrau, a’r cyfan wedi’i osod mewn 300 erw o barcdir coediog, wedi cael ei roi ar restr fer Gwobr Dewis y Bobl Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) 2021.

Mae’r prosiect mwyaf o’i fath yng Nghymru wedi cymryd pum mlynedd i’w greu ac wedi costio £7.3 miliwn, a chafodd gymorth mawr gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’n un o chwe phrosiect ledled y byd sydd ar restr fer gwobr ICE.

Dywedodd swyddog y prosiect, Angharad Phillips: “Mae’r dirwedd eisoes yn atyniad mawr ac yn boblogaidd iawn gyda’n hymwelwyr. Mae yna sylwadau gwych wedi dod i law, ac rydym hefyd wedi cael y nifer uchaf erioed o bobl trwy’r gât yr haf hwn.

“Rydym yn annog yr holl gefnogwyr newydd hyn, ynghyd â’n hen ffrindiau i gyd, i bleidleisio drosom yn y gwobrau mawreddog hyn.”

Esboniodd Angharad fod y llwyddiant yn ganlyniad i ymdrech enfawr a chydlynol a oedd wedi cynnwys y gymuned leol, haneswyr lleol, staff a gwirfoddolwyr yr Ardd Fotaneg, peirianwyr, penseiri ac archaeolegwyr, yn ogystal â chontractwyr amgylcheddol i adfer y dirwedd yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las yr Ardd mewn modd sympathetig.

Dywedodd Damian McGettrick, berchennog WM Longreach, y prif gontractwr: “Mae’n anrhydedd cael ein henwebu ar gyfer y wobr hon, ac rydym yn hynod o falch ein bod wedi bod yn rhan o’r tîm angerddol ac ymroddedig hwn”.

Gallwch ‘nawr bleidleisio YMA dros y ‘Prosiect Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth’ fel eich hoff brosiect peirianneg sifil.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau ICE ac ymgais Gwobr Dewis y Bobl yr Ardd Fotaneg, ewch i Prosiect Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru | Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ice.org.uk)

I gael rhagor o wybodaeth am yr Ardd Fotaneg, ewch i’n gwefan.


Cyllidwyr y Prosiect Adfer Cyfnod y Rhaglywiaeth: Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Richard Broyd, Sefydliad Waterloo, Cyngor Sir Caerfyrddin, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Esmée Fairbairn, Ymddiriedolaeth y Pererin, Country Houses Foundation, Ymddiriedolaeth Patsy Wood, The Monument Trust a Sefydliad Garfield Weston.

Y Contractwr:

WM Longreachcwmni contractio amgylcheddol arbenigol a theuluol, sy’n ymgymryd â phrosiectau heriol ledled y DU ar safleoedd sensitif, hanesyddol neu anodd cael mynediad iddynt, ac sy’n meddu ar yr arbenigedd i gynnig atebion cynllunio arloesol mewn dŵr ac yn ymyl dŵr. Mae’r cwmni’n meddu ar fwy na 50 mlynedd o brofiad peirianneg sifil, ac mae wedi gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau elusennol ac amgylcheddol a chynghorau, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, English Heritage, yr Ymddiriedolaeth Natur ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Y Tîm Cynllunio:

Bu staff Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ar y safle trwy gydol y gwaith adeiladu, yn cloddio nodweddion hanesyddol allweddol. Roeddent hefyd wedi arsylwi’n ofalus ar bob cam o’r gwaith. Aethant ati i gloddio’r llifddor wreiddiol a oedd yn rheoli llif y dŵr yn Llyn Mawr. Yn ôl Prifysgol Abertawe, a ddyddiodd y llifddor, roedd y pren wedi cael ei gwympo yn ystod gwanwyn 1789, sef y flwyddyn y prynodd William Paxton yr ystad.

Mae’r safle adfer 300 erw mewn ardal o dreftadaeth naturiol sensitif sy’n cynnwys amrywiaeth o greaduriaid megis pathewod, moch daear ac ystlumod. Roedd yn rhaid cadw at gyfyngiadau trwyddedu llym mewn perthynas â’r creaduriaid hyn, ac mae ecolegwyr yn parhau i fonitro’r safle. Mae’r gwaith o drawsleoli cen prin a phlanhigion hefyd wedi mynd rhagddo. Mae Pryce Consultants yn Sir Gaerfyrddin wedi darparu gwasanaeth ymgynghori gwerthfawr o’r cychwyn cyntaf.

Simon Bonvoisin o Nicholas Pearson Partnership LLP oedd yr ymgynghorydd arweiniol, a bu’n goruchwylio pob agwedd ar y dirwedd gynlluniedig. Mae gan y cwmni brofiad helaeth o adfer tirweddau hanesyddol ac o ddarparu cyngor arbenigol ar dirweddau hanesyddol, rheoli tirweddau a chynllunio tirweddau, a hynny i amrywiaeth eang o gleientiaid ledled y DU, gan gynnwys ystadau preifat, datblygwyr, awdurdodau lleol, ymddiriedolaethau elusennol, prifysgolion, Dugiaeth Cernyw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae’r ymgynghorydd arweiniol Tom Hill a Tom Martin, ill dau o Mann Williams, wedi gweithio ar elfennau peirianyddol y nodweddion, megis y chwe phont newydd a chynllun yr argaeau a’r gorlifannau. Mae’r ddau’n arbenigwyr mewn cadwraeth a phrosiectau adeiladu newydd, ac mae gan y cwmni y nifer mwyaf o beirianwyr cofrestredig yn y DU ar y gofrestr CARE (Conservation Accrediation Register of Engineers). Mae Mann Williams yn gwmni o ymarferwyr arweiniol ym maes peirianneg ddigidol, ac mae ganddo beth o’r dechnoleg fwyaf blaengar a chyffrous sydd ar gael heddiw.

Peirianwyr y Cronfeydd Dŵr: Jonathan Hinks a Craig Goff o HR Wallingford sydd wedi cynllunio’r cronfeydd a’r argaeau yn Llyn Mawr a Llyn Felin Gât. Mae gan Jonathan 40 mlynedd o brofiad yn gweithio gydag argaeau, ynni dŵr, rheoli llifogydd a chyflenwadau dŵr. Mae Craig yn Gyfarwyddwr Technegol ac yn arweinydd y tîm Argaeau a Chronfeydd Dŵr a’r sector Technolegau sy’n Dod i’r Amlwg. Maent yn parhau i fonitro’r cronfeydd dŵr.

Y Pensaer: Jonathan Saunders o Caroe & Partners a gynlluniodd y chwe phont. Cafodd ysbrydoliaeth o rai o luniau Hornor. Nod Caroe & Partners yw darparu dull gwreiddiol a nodedig o gyflawni gwaith newydd, ynghyd â dull ysgolheigaidd o ofalu am adeiladau hanesyddol a safleoedd sensitif.

Isgontractwyr:

Saer maen – mae Selwyn Jones wedi bod yn saer maen am fwy nag 20 mlynedd, ac wedi cydweithredu â Cadw a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae wedi gweithio ar amrywiaeth o brosiectau, yn safleoedd treftadaeth ac adeiladau brodorol, ac yn obelisgau ac eglwysi cadeiriol. Mae Selwyn, o Rydaman, Sir Gaerfyrddin, yn frwd dros sgiliau traddodiadol, ac yn defnyddio dulliau traddodiadol a defnyddiau lleol i helpu i adfer adeiladau i’w gogoniant blaenorol.

Gof – lluniodd Toby Petersen y rheiliau ar un o’r pontydd dur â llaw. Mae Toby, sydd wedi’i leoli yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, yn of arbenigol, ac mae hefyd yn ymgymryd â gwaith cadwraeth metel.

Gof – William Holland o Phoenix Forge yng Nghaerfyrddin a greodd y rheiliau gof ar un o’r pontydd dur ac ar y bont wledig yn Llyn Felin Gât. Mae William yn frwd dros barhad y grefft, ac mae llawer o’r sgiliau yn ddigyfnewid ac yn cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

Clirio’r Safle – Gwasanaethau Coed Llambed a ymgymerodd â’r gwaith o glirio’r safle adfer cyn i’r prif gontractwyr ddechrau ar eu gwaith. Maent yn arbenigwyr ar weithio mewn ardaloedd lle mae yna fywyd gwyllt ac ecoleg sensitif. Bu iddynt gyflawni hyn trwy ddeall ein gofynion i’r dim, ynghyd â’r gofynion rheoliadol a deddfwriaethol perthnasol, a thrwy ofalu eu bod yn cadw at y lefelau uchaf posibl o ran sicrhau ymwybyddiaeth o ansawdd. Mae Gwasanaethau Coed Llambed hefyd wedi cynnal arolygon o’n coed hynafol a’r coed y mae’r clefyd (Chalara) coed ynn wedi effeithio arnynt.