Adar ysglyfaethus anorchfygol yn gwneud i’n Gardd dyfu

Mae dros 200 mlynedd ers yr oedd eryrod euraid yn olygfa gyffredin yng Nghymru. Ond maent ar fin dychwelyd i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru gydag agoriad Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig ar Fehefin 1.

Mae’r ganolfan newydd – a fydd yn cynnwys 20 aderyn ysglyfaethus cynhenid- yn cynnig cyfarfod agos ansbaradigaethus i ymwelwyr yr Ardd gyda chudyllod, hebogau, cudyllod coch, barcudiaid a bodaod yn ogystal ag eryrod.

Meddai cyfarwyddwr y ganolfan Emma Hill: “Dyma un o’r ychydig lefydd yn y DU cyfan ble fyddwch yn medru gweld eryrod euraid yn hedfan.”

Gyda dwy arddangosfa hedfan yn ddyddiol a ‘sioe dylluan’ yn feunyddiol hefyd, mae’r ganolfan newydd yn addo i fod yn boblogaidd iawn gan bobl o bob oed.

Meddai Emma: “Ychydig iawn o ymwelwyr fydd yn gwybod rhywbeth am ein hadar ysglyfaethus cynhenid ac ychydig iawn fydd wedi eu gweld yn y gwyllt. Nawr mae ganddynt y cyfle perffaith i ddarganfod mwy am yr anifeiliaid gwych yma yn agos a phersonol.

“Y mwyaf y gallwn ledaenu’r neges gadwraeth, y mwyaf tebygol ydym ni’n mynd i fod yn galluogi’r adar gwych yma i ffynnu yn y gwyllt.”

Mae Cyfarwyddwr yr Ardd Fotaneg Huw Francis yn croesawu’r newyddion bod y Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydeinig yn agor, gan ddweud, gyda’r ychwanegiad diweddaraf yma i ddewislen o atyniadau, bod gan yr Ardd gynnig sy’n agos i fod yn anorchfygol: “Gyda niferoedd sy’n ymweld â’r Ardd yn codi, adolygiadau gwych ac enw da sy’n tyfu, mae’r Ardd wir yn mynd o nerth i nerth. Mae’r agoriad ar 1af o Fehefin yn garreg filltir anferthol arall i ni ac ni allwn aros i gyflwyno ein hymwelwyr i fyd anhygoel yr adar ysglyfaethus.”

– Elusen yw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi ei hymrwymo i ymchwil a chadwraeth o fioamrywiaeth; i gynaladwyedd, dysgu gydol oes a mwynhad yr ymwelyddAgorwyd ym Mai 2000 fel un o dri phrosiect eiconig y Mileniwm yng Nghymru. Yr Ardd yw’r unig brosiect y tu allan i brifddinas Cymru, wedi ei lleoli mewn parcdir hanesyddol (ystâd Middleton) ac yn cynnwys 568 erw gan gorffori Gwarchodfa Natur Naturiol a fferm organig, yn ogystal â bod yn lle i arddangos rhai o’r planhigion mwyaf mewn perygl.
– Mae’r Ardd agor bob dydd o’r flwyddyn ar wahân i Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig.
– Mynediad i’r Ardd yn £14.50 (yn cynnwys Rhodd Cymorth) i oedolion ac mae hyn yn cynnwys mynediad i atyniad Adar Ysglyfaethus Prydeinig newydd. Plant o dan 5 am ddim. Mynediad yn £3.50 ar gyfer aelodau a pharcio am ddim i bawb.

– Cyhoeddodd yr Ardd Fotaneg bod nifer yr ymwelwyr dros yr 17 mlynedd ddiwethaf wedi bod yn uwch nag erioed eleni ar gyfer y flwyddyn i Fawrth 31, 2018 gyda chyfanswm o 177,750 o ymwelwyr drwy ei chlwydi.