Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru’n helpu i dyfu garddwyr y dyfodol gyda dwy brentisiaeth newydd yng ngarddwriaeth fotanegol.
Yn dechrau ym mis Medi eleni, mae’r ddwy rôl newydd wedi’u hariannu gan y Cynllun Gerddi Cenedlaethol, a’r cymwynaswr preifat, Patrick Daniell.
Meddai Cyfarwyddwr yr Ardd, Huw Francis bod y ddwy brentisiaeth, o ddwy flynedd o hyd, yn newyddion da i Gymru a’n newyddion gwych am arddwriaeth fotanegol: “Yr ydym wedi cael yr amcan hwn ers tro i ddiwyllio talent Gymreig ac mae’r newyddion arbennig hyn yn garreg filltir fendigedig ar y daith i sylweddoli’r uchelgais hwn.”
Dywedodd Mr Francis bod garddwriaeth yn cynrychioli llwybr gyrfa ardderchog:
“Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod gennym weithwyr proffesiynol addas, sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac sy’n gallu bod yn fantais i’r sector yn y blynyddoedd i ddod. Mae yna brinder o ryw 10,000 o arddwyr ar draws y DU felly rydym yn falch iawn i fod yn chwarae rhan flaenllaw i Gymru i ddatrys hyn.”
Mae Patrick Daniell wedi bod yn cefnogi prentisiai yn yr Ardd ers mis Mai 2015. Cafodd y cyhoeddiad o brentisiaeth CGC ei wneud gan Lywydd y Cynllun Gerddi Cenedlaethol, Mary Berry, yn seremoni arbennig yn Llundain ddoe (Mawrth 14) a oedd yn dathlu penblwydd 90ain y corff.
Mae’r CGC wedi codi dros £50 miliwn am elusennau trwy’r cynllun ‘gerddi agored’.
Ychwanegodd Mr Francis:
“Yr ydym yn werthfawrogol iawn i Patrick am ei ymroddiad parhaol i’r achos ac rydym yn falch i gyhoeddi ein partneriaeth newydd gyda’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol.”
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn elusen gofrestredig, a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Gaerfyrddin.
Mae ar agor o 10yb hyd at 6yp, gyda’r mynediad diwethaf am 5yp.
Mae mynediad i’r Ardd yn £10.50 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion ac yn £4.95 i blant dros 5 mlwydd oed. Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd ac mae parcio am ddim i bawb.
Am fwy o wybodaeth am y cynllun newydd hwn, neu am unrhywbeth arall yn gysylltiedig â’r Ardd, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk