Good heavens! Garden gets special status

Dyfarnwyd satws Lleoliad Ddarganfod Ffurfafen Dywyll i Ardd Fotaneg Genedlaethol – yr ardd fotaneg gyntaf ym Mhrydain i ennill yr anrhydedd hwn.

Mae hwn yn gydnabyddiaeth swyddogol gan bartneriaeth Ddarganfod y Ffurfafen Dywyll o ansawdd y ffurfafen y nos dros yr atyniad yn Llanarthne.

[nggallery id=499]

Mae’r Ardd yn un o 25 o safleoedd swyddogol ‘ffurfafen dywyll’ i’w cyhoeddi yr wythnos hon,  i gyd-ddigwydd â chychwyn Wythnos Syllu ar y Sêr y BBC ar Ddydd Mawrth, Ionawr 7fed.

Meddai Dan Hillier o Bartneriaeth Ddarganfod y Ffurfafen Dywyll:  “Llongyfarchiadau i bawb – yr unigolion a’r mudiadau – sydd wedi bod yn ymwneud â chreu ein lleoliad newydd Darganfod Ffurfafen Dywyll.  Gobeithiaf yn wir y bydd yn galluogi mwy fyth o bobl i gael eu hysbrydoli gan eich golygfeydd lleol o’r bydysawd.”

Dywedodd Colin Miles, gwirfoddolwr yn yr Ardd ac aelod o Bwyllgor Cymdeithas Seryddol Abertawe, sy’n cynnal disgwyddiau seryddol rheolaidd yn yr Ardd:   “Dyma newyddion rhagorol.   Mae’r Ardd yn lle delfrydol ar gyfer seryddiaeth, a byddwn yn parhau i gynnal digwyddiadau rheolaidd yno er mwyn ceisio dod â phobl yn agosach at y sêr.”

Ategodd Cyfarwyddwraig yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Dr Rosie Plummer:  “Mae ffurfafen glir yn ffon fesur ardderchog o amgylchedd dda, ac mae’r dyfarniad hwn o statws Ffurfafen Dywyll yn dangos ein cymwysterau fel canolfan ar gyfer gweithgareddau ym myd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, ynghyd â chadarnhau’r Ardd fel lleoliad ragorol ar gyfer diwrnod allan arbennig – neu, yn yr achos hwn, noson allan arbennig!”

Ychwanegodd Dr Plummer:  “Bydd hwn yn ychwanegu at ein huchelgais i greu safle ar gyfer rhoi cartref i’r Telesgôp 20” Schafer-Maksutov, a oedd cyn hyn yn Nhyrau’r Marina ar lan y môr yn Abertawe.”

Mae’r digwyddiad seryddol nesaf yn yr Ardd i’w gynnal ar Ddydd Gwener, Chwefror 7, 6.30yh – 9yh, pan gaiff ymwelwyr gyfle i weld y Lleuad, y blaned Iau, Nifwl Orïon, a rhyfeddodau cosmig eraill, ynghyd â sgyrsiau a chlinigau fydd yn rhoi cyngor ar ddefnyddio telesgôp yn Y Tŷ Gwydr Mawr, gyda chawl a choffi ar gael ym Mwyty’r Tymhorau.

Mae’r tâl mynediad yn £3, ac yn rhad ac am ddim i rai dan 16 oed.

Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau seryddol yn yr Ardd, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu galwch 01558 667149.

* Mae’r gyfres newydd o Star-Gazing Live ar BBC2 ar Ddydd Mawrth, Ionawr 7 am 8yh. * Er mwyn darganfod mwy am y Bartneriaeth Ddarganfod Ffurfafen Dywyll, ewch i www.darkskydiscovery.org.uk