Cellan Williams

Pennaeth Arlwyo a Chorfforaethol

Prif ddyletswydd y Pennaeth Arlwyo a Chorfforaethol yw gweithredu a gwella perfformiad masnachol gweithgareddau arlwyo a chorfforaethol yr Ardd, drwy reolaeth a gweithredu effeithiol o adnoddau, gan gynyddu ei throsiant a gwneud y mwyaf o’i phroffil.   Bydd cyflawni amcanion perfformiad yn gofyn am hyrwyddo llwyddiannus o’r Ardd, fel lleoliad ar gyfer cynulleidfaoedd newydd a’r rhai sy’n bodoli’n barod, gan gydlynu’r darpariaeth arlwyo a digwyddiadau, a sicrhau’r safonau uchaf posibl o wasanaeth i gwsmeriaid.  Nodwedd bwysig o’r rôl yw rheolaeth lwyddiannus, a chyd-gysylltu’n fewnol, a gyda chytundebwyr a chyflenwyr allanol.

Ymunodd Cellan Williams ag Uwch-Dîm yr Ardd yn Chwefror 2015.  Mae ganddo record ragorol o  ryw 20 mlynedd yn y sector lletygarwch, yn bennaf yn Llundain, ond hefyd yma yn Sir Gaerfyrddin.Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o sefydliadau o feintiau a chymlethdodau gwahanol, gan gynnwys lleoliadau mawr fel Parc Richmond, lle canolbwyntiodd ei dîm ar briodasau a digwyddiadau eraill.

Mae e’n gyrru ymdrechion masnachol yr Ardd yn awr, ac yn codi ei phroffil a’i pherfformiad.  Yn hanu’n wreiddiol o Frynaman, mae Cellan yn Gymro Cymraeg.