Neuadd yr Apothecari

Fferyllfa Edwardaidd wedi ei hail-greu yw Neuadd yr Apothecari, o gyfnod pan gwnaed y rhan fwyaf o feddyginiaethau gan ddefnyddio planhigion.

Yn yr ysgubor gerrig wrth ymyl Sgwâr y Mileniwm, fe ddewch o hyd i Neuadd yr Apothecari lle welwch ystod o hen foteli yn cynnwys tinturiau, suropau a phowdrau. Yn bennaf, defnyddiwyd y rhain i gynhyrchu pils, eli a moddion meddyginiaethol gan ddefnyddio’r mathau o freuanau a chloriannau sy’n cael eu harddangos. Cymharwch yr amrywiaeth eang o feddyginiaethau sydd yn y siop, a’u honiadau gorliwiedig, gyda’r cynnyrch sydd ar gael heddiw.

Os cawsoch chi gyfle i astudio tipyn o Ladin erioed, dyma siawns unigryw i ddarllen llyfr presgripsiwn, wedi ei ysgrifennu yn Lladin.

Uwchben y cownter, fe welwch y drych hud. Gallwch edrych nôl mewn amser trwy gyfrwng cyfres o hanesion byr am apothecari Edwardaidd a’i brentis. Mae pob darn, sy’n 3-4 munud o hyd, yn edrych ar agwedd wahanol ar eu gwaith ac mae fersiwn Cymraeg yn dilyn y fersiwn Saesneg.

Wrth ymyl Neuadd yr Apothecari fe welwch arddangosfa o blanhigion sydd wedi cael eu defnyddio i drin afiechydon ar draws y byd.

Ym mhen draw’r Neuadd mae yna arddangosfa gwaith gwnïo o blanhigion sydd wedi cael eu defnyddio i drin salwch yng Nghymru dros filoedd o flynyddoedd. Cafodd hon ei chreu gan Grŵp Pwytho Botanegol yr Ardd.

Pan ddewch chi allan o’r arddangosfa, ewch ddrws nesaf i Ardd yr Apothecari lle gwelwch nifer o’r planhigion sy’n cael eu defnyddio i greu pils a diodydd meddyginiaethol.