Y Peiriant Byw

Ry’n ni’n ailgylchu dŵr yn y Peiriant Byw

Mae carthffosiaeth, a’r hyn sy’n mynd lawr y sinc yn ein bwyty, yn cael ei bwmpio i danc tanddaearol enfawr. Tra bod y garffosiaeth solet yn syrthio i waelod y tanc septig, mae’r elfen ddyfrol ar yr wyneb yn cael ei bwmpio i lawr i’r pwll mawr yn ein hardal Cadw er mwyn ein Dyfodol.

Sut mae hyn yn gweithio?

Mae creaduriaid bychain yn bwyta’r mater solet. Mae’r bacteria hyn angen llawer iawn o ocsigen – felly ry’n ni’n pwmpio aer ar hyd y llawr graeanaidd. Gelwir y dechnoleg gweddol newydd hon yn ‘awyru gorfodol’ o’r gwely, sef forced bed aeration.

Mae cyrs tal (efallai mai ‘brwyn’ fyddwch chi’n eu galw) yn helpu rheoli llif y dŵr. Mae bacteria hefyd yn glynu i wreiddiau’r cyrs – ac felly’n cynyddu maint y bacteria hynny.

I ble mae’r holl ddŵr yn mynd?

Mae’n dwrhau’r coed mewn cae gerllaw yr y’n ni’n bwriadu’u defnyddio fel tanwydd ar gyfer ein boeler biomás.

Os hoffech wybod mwy, ARM Group Ltd sydd wedi gosod y dechnoleg newydd hon.