3 Maw 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Mawrth 3

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Tirwedd chwedlonol yn dod nôl i’r dyfodol

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn dathlu gwobr loteri sy’n mynd i gychwyn y datblygiad mwyaf yn ei hanes

Mae grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a gyhoeddwyd ar y 1af o Fawrth, yn ddarn olaf o’r jig-so ac yn arwydd cychwyn o’r cyfnod adeiladu o’r prosiect £7.2 miliwn i adfer y tirlun chwedlonol o un o barciau dŵr o gyfnod y Rhaglywiaeth gorau ym Mhrydain.

Dechreuodd perchnogion gwreiddiol y stad, y Middletons, gynllunio gerddi ffurfiol ar ddiwedd yr 16eg ganrif gan ddefnyddio cyfoeth a ddaeth o werthu sbeisys, perlysiau a nwyddau eraill fel sylfaenwyr yr East India Company ar ddechrau’r 17eg ganrif.

Ond bu’n rhaid aros nes y prynwyd y stad gan Aelod Seneddol Caerfyrddin, Syr William Paxton, yn 1789 cyn i’r gerddi ddechrau datblygu o ddifrif.

Ag yntau wedi ei ddylanwadu gan y pensaer tirluniol bydenwog, Capability Brown, comisiynwyd Samuel Lapidge i gynllunio’r tirlun a’r gerddi gan gynnwys parc dŵr arloesol gyda dŵr yn llifo o gwmpas y stad wedi’i gysylltu gan rwydwaith o argloddiau, llifddorau, pontydd a rhaeadrau.

Y nodweddion dŵr arloesol hyn fydd yn cael eu hail-greu er mwyn i ymwelwyr heddiw eu mwynhau.

Meddai Huw Francis, Cyfarwyddwr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: “Mae’r Gwanwyn yn sicr wedi gwawrio yma yn yr Ardd, ac mae’r newyddion gwych hwn yn croesawu tymor newydd a phennod newydd yn ein hanes ar yr un pryd.

“Ers inni agor ar droad y Mileniwm, rydym wastad wedi bod eisiau dathlu nid yn unig ein garddwriaeth ond hefyd ein treftadaeth.

Ychwanegodd Mr Francis bod y gwaith adfer yn mynd i ddigwydd yn gyfochrog â rhaglen gyffrous o weithgareddau a digwyddiadau’n darparu amrywiaeth o gyfleoedd i bobl gymryd rhan.

Mae amseru’r cyhoeddiad yn dda, nid yn unig yn cyd-daro gyda ‘Blwyddyn Chwedlau’ a ‘Blwyddyn y Môr’ Croeso Cymru, ond hefyd gyda’r gyfres hynod o boblogaidd y BBC ‘Taboo’ lle mae gan yr  East India Company rhan allweddol yng nghanol drama goctel o frad, cynllwynio a thywallt gwaed.  Mae yna gyswllt anorfod rhwng hanes a threftadaeth yr Ardd a’r Cwmni, o’i chychwyniad llewyrchus i’w dirywiad ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Bydd y gwaith yn dechrau eleni.

 

Mis y Cennin Pedr

Mae mis Mawrth yn Fis y Cennin Pedr yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol felly dyma’r mis i fwynhau pob math o gennin Pedr, mae miloedd ohonynt i’w gweld yma!

Gyda dros 50 o wahanol rywogaethau i’w ddarganfod, gan gynnwys rhai rhywogaethau Cymraeg arbennig, mae’r Ardd yn le hyfryd i ddod a dysgu mwy am flodyn cenedlaethol Cymru.

Gallwch gasglu Llwybr y Cennin Pedr o’r Porthdy ac mae yna ddewis arbennig o gennin Pedr ar werth yng nghanolfan planhigion Y Pot Blodyn.

 

Mawrth – Mis o Gerddoriaeth

BOB penwythnos ym mis Mawrth bydd y Tŷ Gwydr Mawr yn atseinio gyda cherddoriaeth o bob math, yn cynnwys corau, bandiau a pherfformwyr o fri.

Mae perfformwyr ar y penwythnosau arbennig yma’n cynnwys: Iwcalilis Caerfyrddin, Triawd Steve Williams, Caroline Harrison, Band Mawr Constellation Abertawe, Côr Crescendo, Côr Merched Tybie a llawer mwy!

Bydd y gerddoriaeth ymlaen o 11yb hyd at 3:30yp pob penwythnos, gyda cherddoriaeth ymlaen hyd at 4:30yp ar Ddydd Sadwrn Mawrth 25ain.

 

Digwyddiadau’r Ardd

Mae pamffled digwyddiadau newydd y gwanwyn 2017 wedi cyrraedd, ac mae’n llond dop o ddigwyddiadau, hwyl i’r teulu, cerddoriaeth a gweithgareddau o nawr hyd at ddiwedd mis Mehefin.

Casglwch un ar eich ymweliad nesaf, neu gwelwch yma am fersiwn ar-lein er mwyn i chi beidio â cholli dim!