22 Maw 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Mawrth 22

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Croeso i gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Sul y Mamau

Bydd yna wledd i Fam ar Ddydd Sul, Mawrth 26ain, gyda mynediad AM DDIM ar ddiwrnod arbennig o faldodi, yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Bydd yna restr drawiadol o harddwyr, arbenigwyr ar golur a chynhyrchwyr fwyd a chrefft yn cynnig amrywiaeth o flaswyr blasus yn cynnwys gwydryn o siampaen blodau’r ysgaw am ddim, triniaeth i’r gwyneb, cymorth gofal croen, triniaeth dwylo a thraed – ac i gyd am ddim i fam!

Bydd yna westai arbennig i’r Ffair eleni hefyd, gyda’r wraig fusnes ac enillydd ‘The Apprentice’ 2016, Alana Spencer, yn gwerthu cynnyrch o’i busnes newydd sbon, ‘Ridiculously Rich by Alana’!
Bydd Alana yn cymryd ei lle yn Nhŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster, ynghyd â dewis eang o fwyd a diod flasus yn ogystal â chrefftau ac anrhegion gan gynhyrchwyr eraill o Orllewin Cymru.
Meddai’r trefnydd, Steffan John: “Ynghyd â chael mynediad am ddim i’r Ardd hyfryd hon, bydd mamau yn cael eu maldodi gan bob math o bobl yn cynnig amrywiaeth helaeth o bethau hyfryd iddynt, gan gynnwys gwydryn o siampaen am ddim!”

“Mae hefyd gennym gerddoriaeth hyfryd ymlaen at bob dant, gan gynnwys y delynores Shelley Fairplay a’r deuawd gwerinol Fiddlebox. Yn ychwanegol, bydd yna hwyl, sbri, hud a rhyfeddodau gan Luke Jugglestruck ac arddangosfeydd hedfan gan Hebogyddiaeth Sir Benfro.”

Felly, yn hytrach na phrynu blodau am Sul y Mamau eleni, dewch â’ch mam i ganol y blodau, yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar agor rhwng 10yb hyd at 4.30yp, gyda’r mynediad diwethaf am 3.30yp. Y tâl mynediad yw £9.75 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) ond yn RHAD AC AM DDIM i bob mam, mam-gu, a hen-famgu ar Ddydd Sul, Mawrth 26.

 

Aelodaeth fel Anrheg

A ydych dal yn meddwl am beth i gael i fam ar gyfer Sul y Mamau?  Yn ogystal ag ymweliad i Ffair Sul y Mamau’r Ardd, gall ein haelodaeth fod yr anrheg berffaith!

Aelodaeth i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw’r anrheg sy’n cadw rhoi – sy’n cynnig mynediad AM DDIM i’r Ardd 363 diwrnod o’r flwyddyn, a llawer mwy.

Mae’r prisoedd yn dechrau o £36 a chofiwch, gallwch brynu am unigolyn, am gwpl neu deulu cyfan (dau oedolyn ahyd at bedwar o blant).

E-Cylchgrawn Aelodau
Mae Aelodau’r Ardd yn derbyn cylchgrawn, ar gael fel copi caled neu’n electroneg.  Mae cylchgrawn Yr Ardd yn arweinlyfr ardderchog a’n llawn gwybodaeth ar newyddion, gwybodaeth a digwyddiadau diweddara’r Ardd.

Cewch gipolwg ar y cylchgrawn yma.

Am fwy o wybodaeth am y wahanol fathau o aelodaeth sydd ar gael, cymerwch olwg yma https://garddfotaneg.cymru/get-involved/become-a-member/ neu ffoniwch Jane Down, Adran Aelodaeth, ar 01558 667118 neu’r tîm mynediadau ar 01558 667149.

 

Mis o Gerddoriaeth

Bydd y penwythnos hwn y penwythnos diwethaf o gerddoriaeth, fel rhan o Fis o Gerddoriaeth ym Mawrth.
Perfformwyr y penwythnos hwn bydd:
Dydd Sadwrn Mawrth 25ain

11yb – 12:30yp – Iwcalilis Caerfyrddin

12:30yp – 2yp – Tristan John

2yp – 3:30yp – Côr Crescendo

Dydd Sul Mawrth 26ain

11yb – 12:30yp – Caroline Harrison

12:30yp – 2yp – Iwcalilis Caerfyrddin

2yp – 3:30yp – Band Chwyth Symffonig Caerfyrddin

Bydd y deuawd werin, Fiddlebox, hefyd yn chwarae ar draws yr Ardd ar Ddydd Sul, Mawrth 26ain.

 

Diwrnod i Chi a’r Ci

 

Bydd y Dydd Llun sydd ar ddod yn gweld yr Ardd yn croesawu ymwelwyr a’u cŵn unwaith eto.

Yn dilyn galw mawr, mae dyddiadau arbennig wedi’u neilltuo yng nghalendr perchnogion cŵn ar gyfer Penwythnosau i Chi a’r Ci yn yr Ardd.

Peidiwch ag anghofio, mae pob Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci trwy gydol y flwyddyn!

Gweler rhestr llawn o reolau y Diwrnodau i Chi a’r Ci yma.  Caiff cŵn mynediad i siop goffi Y Pot Blodyn, ger prif fynedfa’r Ardd, Bwyty’r Tymhorau, y Siop Roddion ac ar brif gyntedd y Tŷ Gwydr Mawr.

Ni chaniateir cŵn ar lwybrau mewnol y Tŷ Gwydr Mawr, tu fewn i Blas Pilipala, na’r maes chwarae i blant chwaith.

 

Ras 10k Tenovus

Mae ras 10k Gofal Canser Tenovus nawr yn ei 5ed mlynedd yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.  Gyda llethrau cyson a thir cymysg, does dim amheuaeth taw dyma un o’r rasys 10k mwyaf prydferth a braf yng Nghymru.

Mae’r ras eleni yn digwydd ar Ebrill 2ail ac os hoffech chi ragor o wybodaeth, gan gynnwys sut i gofrestru, gwelwch wefan Tenovus yma, neu cysylltwch â events@tenovuscancercare.org.uk