1 Chwef 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Chwefror 1

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Dyma gylchlythyr diweddara’r Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

Gweler y cylchlythyr llawn yma.

Mis Chwefror – Beth Sydd Ymlaen

Digwyddiadau ar y ffordd i nodi yn eich dyddiaduron…

1 Chwefror
Mercher Mwdlyd – Gweithgareddau i chi a’ch plant dan oed ysgol!

3 Chwefror
Parti’r Sêr – 6-9yh – £3 Mynediad

4 Chwefror
Cwrs crefftau helyg – creu basgedi ffrâm i ddechreuwyr – £35 (£30 consesiwn) archebu lle gyda’r Adran Addysg – 01558 667150

6 Chwefror
Diwrnod i Chi a’r Ci – Dewch â’ch ci am dro o gwmpas yr Ardd

8 Chwefror
Mercher Mwdlyd – Gweithgareddau i chi a’ch plant dan oed ysgol!

11 Chwefror
Cwrs Tocio Coed Ffrwythau’r Gaeaf – £35 (£30 consesiwn) archebu lle gyda’r Adran Addysg – 01558 667150

11-12 Chwefror
Penwythnos i Chi a’r Ci – Penwythnos arbennig i chi a’ch ci

12 Chwefror
Cwrs ffeltio – ffeltio creadigol – £35 (£30 consesiwn) archebu lle gyda’r Adran Addysg – 01558 667150

13 Chwefror
Diwrnod i Chi a’r Ci – Dewch â’ch ci am dro o gwmpas yr Ardd

14 Chwefror
Bore Coffi & Sgwrs i Aelodau gan Dr Jenny Macpherson – Aelodau’n Unig
Ffoniwch 01558 667118 am fanylion.

15 Chwefror
Mercher Mwdlyd – Gweithgareddau i chi a’ch plant dan oed ysgol!

HANNER TYMOR – 18-26 Chwefror
Gweithgareddau Hanner Tymor:
Pryfed, Luke Jugglestruck, gweithgareddau seryddiaeth, gweithdai o wneud rocedi a gemau anferth yr Ardd!

20 Chwefror
Diwrnod i Chi a’r Ci – Dewch â’ch ci am dro o gwmpas yr Ardd

25 Chwefror
Cwrs ffotograffiaeth digidol – Rhan 1 o 3 – £35 (£30 consesiwn) archebu lle gyda’r Adran Addysg – 01558 667150

26 Chwefror
Dathliad Dydd Gŵyl Dewi – Mynediad AM DDIM i bawb!
Ffair Fwyd & Chrefft & Gwinwyr Caerfyrddin

26 Chwefror
Cwrs Ffeltio – Blodau ffelt – £35 (£30 consesiwn) archebu lle gyda’r Adran Addysg – 01558 667150

27 Chwefror
Diwrnod i Chi a’r Ci – Dewch â’ch ci am dro o gwmpas yr Ardd

28 Chwefror
Dathliad Dydd Gŵyl Dewi gyda Menter Cwm Gwendraeth Elli

 

Penwythnos y Lili Wen Fach

Daw’r awdur Naomi Slade sy’n arbenigwraig ar eirlysiau i rannu cyfrinachau’r blodyn hyfryd hwn.

Bydd eirlysiau yn dwyn y sylw i gyd ar benwythnos arbennig sydd yn canolbwyntio ar y blodyn pert, meindlws hwn sy’n gennad i’r gwanwyn – i’w gynnal yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Chwefror 4ydd & 5ed.

Bydd yr arbenigwraig garddwriaethol, Naomi Slade, yn arwain y dathliad dau ddiwrnod, ac yn ein tywys ar daith o amgylch prif leoliadau’r eirlysiau yn yr Ardd. Bydd hi hefyd yn rhoi sgwrs ar dyfu a gofalu am blanhigion eich hun, eu tarddiad diddorol ac yn edrych ar sut i’w defnyddio yn yr ardd. Mi fydd hi hefyd yn llofnodi copïau o’i llyfr, ‘The Plant Lover’s Guide to Snowdrops’.

Bydd y sgwrs yn cael ei gynnal am 11:30yb ar y ddau ddiwrnod, yn Theatr Botanica gyda’r daith tywys yn dechrau yna am 2yp.

Mae llwybr hunan-arweiniol o amgylch y prif leoliadau i weld yr eirlys ar gael i ymwelwyr yn y cyfnod sy’n arwain at y digwyddiad hwn, a hefyd ar y 4ydd a’r 5ed.

Bydd gweithgareddau i’r teulu hefyd ar gael yn ystod y penwythnos, gyda llawer o grefftau’n ymwneud â’r eirlys, a hwyl a gemau i blant a’u teuluoedd.

Mae Penwythnos yr Lili Wen Fach ymlaen o 10yb hyd at 4:30yp ar y ddau ddiwrnod. Mae pob gweithgaredd sy’n ymwneud â’r eirlys wedi’u cynnwys ym mhris mynediad yr Ardd.

Mae mynediad AM DDIM i aelodau’r Ardd, ac mae parcio AM DDIM i bawb.

Mae’r Ardd ar agor o 10yb hyd at 4.30yp, gyda’r mynediad olaf am 3.30yp.

Am fwy o wybodaeth am hwn a digwyddiadau eraill, ewch i’n gwefan, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

* Mae Naomi yn westai radio rheolaidd, ac yn cyfrannu’n aml i nifer o bapurau newydd a chylchgronau cenedlaethol, gan gynnwys, The Guardian, The Telegraph, Kitchen Garden Magazine, House and Garden, a chylchgrawn swyddogol y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, The Garden.

 

Parti’r Sêr

Ar Ddydd Gwener, Chwefror 3ydd bydd Cymdeithas Seryddiaeth Abertawe yn cynnal ei digwyddiad o syllu ar y sêr diweddaraf yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru o 6yh-9yh.

Bydd popeth, yn cynnwys y sgwrs, yn cael eu cynnal yn y Tŷ Gwydr Mawr ac, gydag awyr clir, fe gewch chi weld ein cymdogion agosaf, yr Alaeth Andromeda a’r Lleuad.  Bydd y lleuad bron yn hanner llawn a ddylai cynnig golygfa arbennig o’r ceudyllau o gwmpas y terfynydd (yr ardal cyfnos ar y Lleuad rhwng y ‘diwrnod’ a’r ‘nos’).

Bydd yna sgwrs ar yr Haul a sut i’w wylio’n ddiogel, brychau haul ayyb gan Brian Spinks o Gymdeithas Seryddiaeth Abertawe.  Dylai hyn cynnig cyflwyniad ardderchog i’r Gweithgareddau Seryddiaeth ar y gweill am hanner tymor mis Chwefror.

Mi fyddwn yn dangos amrywiaeth o Delesgopau ac Ysbienddrychau, gan gynnwys rhai sy’n addas i blant ifanc a dechreuwyr.  Dewch â’ch telesgopau gyda chi – yn enwedig os ydych am dderbyn unrhyw gymorth ar sut i’w defnyddio.

Mae’r sgwrs yn dechrau am 7yh ac yn cael ei ailadrodd yn hwyrach fel y mynnir.

Bydd mynediad trwy’r fynedfa Gorfforaethol ac yn £3 y person, gyda phlant o dan 16 mlwydd oed am ddim.  Bydd lluniaeth ar gael.

Diwrnod i Chi a’r Ci

Bydd y Dydd Llun sydd ar ddod yn gweld yr Ardd yn croesawu ymwelwyr a’u cŵn unwaith eto.

Rhaid i gŵn fod ar dennyn di-estynadwy trwy’r amser, ac oherwydd y planhigion a philipalod prin a gwerthfawr, ni chaniateir cŵn tu fewn i Blas Pilipala.

Yn dilyn galw mawr, mae dyddiadau arbennig wedi’u neilltuo yng nghalendr perchnogion cŵn ar gyfer Penwythnosau i Chi a’r Ci yn yr Ardd, gyda’r un ym mis Chwefror ar yr 11fed & 12fed.

Peidiwch ag anghofio, trwy gydol tymor y gaeaf – mae pob Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci!

Mercher Mwdlyd

Mae Dydd Mercher Mwdlyd yn cynnwys awr o hwyl a sbri, gweithgareddau yn yr awyr agored, adrodd straeon ac archwilio ar gyfer plant bach o dan oed ysgol, ac yn gyfle arbennig i rieni fynd â’u plantos yn agos at natur yn y dŵr a’r mwd – byth bynnag fo’r tywydd!

Mae’r gweithgareddau yn dechrau o’r Porthdy, mae yna dâl mynediad arferol i oedolion ac mae plant o dan 5 mlwydd oed am ddim.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Addysg ar 01558 667150.