5 Ion 2017

Cylchlythyr yr Ardd – Ionawr 4ydd

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Dyma gylchlythyr diweddaraf yr Ardd, os hoffech ei dderbyn yn syth i’ch cyfeiriad e-bost, cofrestrwch yma.

 

Edrychwch ar y cylchlythyr llawn yma.

Penwythnos i Chi a’r Ci

Mae yna benwythnos arbennig i gŵn a’u berchnogion yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn 7fed a Dydd Sul 8fed o Ionawr.  Ac mae mynediad i’r Ardd AM DDIM ar y penwythnos yma, heb unrhyw dâl am gŵn chwaith.  Mae’n hefyd werth cofio bod mynediad i’r Ardd AM DDIM o Ddydd Llun i Ddydd Gwener yn ystod mis Ionawr.

 

Pa ffordd well i roi cynnig ar lwybrau ‘Heini Am Ddim‘ yr Ardd?

 

Rydym wedi creu nifer o lwybrau o gwmpas yr Ardd – rhai ar lwybrau gwastad yn addas i rodwyr, pramiau a chadeiriau olwyn gyda rhai sy’n fwy garw, gyda llwybrau garw o gwmpas yr ystâd a heibio’r rhaeadr.  Mae gan bob llwybr cyfradd ‘teisen gwpan’ sy’n cyfeirio at y radd o anhawster.

 

A pheidiwch ag anghofio, yn ystod y gaeaf mae pob Dydd Llun yn Ddiwrnod i Chi a’r Ci!

 

Adeiladu Ein Treftadaeth

Bydd yr Ardd yn cynnal digwyddiad ‘Adeiladu Ein Treftadaeth‘ y Ganolfan Tywi ar Ddydd Sadwrn Ionawr 7fed.  Dewch i gyfarfod â’r arbenigwyr a chael gwybod y cyfan am fyw mewn hen adeiladau a sut i ofalu amdanynt.

 

SEMINARAU

  • Ystlumod a phrosiectau adeiladu
  • Arbed ynni mewn hen adeiladau
  • Eco-adeiladu
  • Astudiaethau achos o ran prosiectau adfer

 

ARDDANGOSFEYDD

  • Calch a gwaith plastro
  • Toi â Gwellt
  • Atgyweirio ffenestri traddodiadol
  • Gosod to traddodiadol
  • Codi waliau sychion

A LLAWER, LLAWER MWY…

 

Penblwydd Alfred Russel Wallace

 

Bydd Dydd Sul Ionawr 8fed yn nodi penblwydd 194ain Alfred Russel Wallace.

 

Enwyd Gardd Wallace yr Ardd ar ôl y naturiaethwr a anwyd ym Mrynbuga. Roedd ei waith ar theori esblygiad trwy ddetholiad naturiol wedi annog Charles Darwin i gyhoeddi ei ‘On the Origin of Species by Natural Selection’.

 

Ymwelwch â’r ardd hon ar eich ymweliad nesaf, sy’n anelu at gynyddu dealltwriaeth a diddordeb mewn bridio planhigion a geneteg.

 

Mercher Mwdlyd yn Dychwelyd

 

Nawr bod tymor newydd yr ysgol wedi dechrau, mae’n amser i groesawu Mercher Mwdlyd yn ôl.

 

Mae Mercher Mwdlyd yn cynnwys awr o hwyl, gweithgareddau yn yr awyr agored, dweud stori, ac archwilio, ar gyfer plant bach o dan oed ysgol ac yn gyfle arbennig i rieni fynd â’u plantos yn agos at natur, gydag awr o hwyl yn y coed, yn y dŵr a’r mwd – beth bynnag fo’r tywydd!

 

Mae’r gweithgareddau yn dechrau am 11yb o’r Porthdy ac mae mynediad ar bob Dydd Mercher yn ystod mis Ionawr yn rhad ac am ddim!

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Adran Addysg ar 01558 667150.