Pobl Middleton

Iau 18 Ebr 2024 8:40yh - 8:40yh Am ddim gyda mynediad

Mae’r Prosiect Adfer o Gyfnod y Rhaglywiaeth pum mlynedd sydd wedi adfer llynnoedd, rhaeadrau, pontydd a rhaeadr wedi cwblhau ac mae hyn wedi ysbrydoli arddangosfa newydd.

Mae grŵp talentog o wirfoddolwyr o’r Grŵp Gwisgoedd Treftadaeth, sy’n wniadwragedd amatur yn eu gwnïo, wedi cael eu hysbrydoli i ail-greu gwisgoedd o gyfnod y Rhaglywiaeth. Mae’r gwaith wedi cael i ysbrydoli o ddarluniau gan arlunydd Thomas Hornor yn 1815. Darganfyddwch fwy am y cyfnod hwn drwy’r gwisgoedd a dysgwch fwy am sut oedd pobl, yn byw, yn gweithio ac yn chwarae.

Grŵp tecstilau creadigol gwirfoddol yw Pwytho Botanegol, maen nhw wedi creu arddangosfa o bortreadau a silwetau o gymeriadau, a oedd mewn rhyw ffordd yn gysylltiedig â hanes yr ystâd hon.

Mae’r Arddangosfa hon ar agor bob dydd rhwng 10yb a 4yp, yn Theatr Botanica (gyferbyn â Neuadd Apothecari).

Weithiau mae’n rhaid i ni gau’r arddangosfa hon ar fyr rybudd. Ffoniwch cyn gwneud taith arbennig.