4 Gorff 2017

Plas Pilipala

Ardd Fotaneg · Botanic Garden

Penblwydd Hapus Plas Pilipala!

Dyma fideo fer o bilipalod trofannol hapus ym Mhlas Pilipala.

Fe wnaethom ddathlu penblwydd cyntaf Plas Pilipala yn ddiweddar, ar Orffennaf y 1af, ac mae wedi profi i fod yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd yr Ardd, yn dysgu gwybodaeth bwysig ar beillwyr, yn croesawu 110,000 o ymwelwyr trwy’r drysau ac wedi gweld 74 o wahanol rhywogaethau o bilipalod a gwyfod yn ystod y flwyddyn!

Ydych chi wedi ymweld â Phlas Pilipala? Os ydych, danfonwch eich hoff lun neu stori atom! Os nad ydych, dewch i ymweld cyn bo hir, mae Plas Pilipala ar agor pob dydd, trwy’r flwyddyn!

#PHPlasPilipala