310 miliwn o flynyddoedd oed
Fedrwch chi weld y ffosilau ar wynebau’r blociau hyn o Dywodfaen Pennant? Chwiliwch am linellau mawr, hir. Gweddillion calamitau, sef coed 30 metr o uchder, yw’r rhain. Roeddent yn perthyn o bell i’r marchrawn byrgoes (Equisetum sp.) sydd i’w gweld heddiw.
Ysgubodd afonydd mawr waddodion i mewn i’r moroedd bas y ffurfiodd y calchfeini ynddynt. Gwaddodion rhynglanwol a ddyddodwyd gyntaf ac yna, yn ddiweddarach, datblygodd deltâu a gwernydd trofannol ar hyd glannau eu prif afonydd, gan greu tirwedd yn ymdebygu i ddelta’r Mississippi heddiw.
Wrth i lannau’r afonydd ddymchwel, cwympodd nifer fawr o’r coed a dyfai ar eu hyd i mewn i’r sianeli, gan ffurfio tagfeydd tebyg i’r dagfa sydd i’w gweld ar wynebau’r creigiau ar y dde.
Diemyntau Du
Planhigion pydredig gwernydd trofannol enfawr y cyfnod Carbonifferaidd a roddodd fod i wythiennau glo de Cymru. Mae darnau mân o lo i’w gweld ar wynebau’r creigiau hyn. Ond gronynnau o dywod yn sownd wrth ei gilydd yw Tywodfaen Pennant yn bennaf.
O ble y daeth y meini hyn? Chwarel Hafod Fach, Aber-carn, Gwent