Nyth Aderyn Rhesog

Cyathus striata

Gellir dod o hyd i’r fadarchen wyllt hynod hon bob hydref ar bentwr o goed yng Nghoed Trawscoed ger y llwybr a elwir yn Troedio Cefn Gwlad.  Mae’n debyg iawn i nyth aderyn bychan gydag wyau bychan ynddo.

Mae’r ‘wyau’ hyn yn cynnwys y sborau, sy’n tasgu allan o’r nyth dim ond i ddiferyn o law ddisgyn arnynt.  Mae llysysyddion, fel gwlithod, yn bwyta’r ‘wyau’ hyn, ac felly’n helpu i ehangu cwmpawd y ffwng hwn, sy’n pydru coed.

Hefyd yng Nghoed Trawsgoed gallwch weld cerflun o’r ffwng, wedi ei greu gan Tina Ashdown a Laura Vettori, gyda cherdd gan Einir Jones wedi ei hysgrifennu arno yn Gymraeg ac yn Saesneg.